Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrandawiad tra siriol yn mhob man, a chawsom dderbyniad croesawus gan y gweinidogion a'r eglwysi. Ni chefais siwrnai mwy dymunol yn mhob ystyr erioed. Daliodd ein hiechyd ein dau yn dda iawn. Credym bod ein hiechyd yn well ar ol dychwelyd na chyn cychwyn, Gwelsom lawer ar y daith hon nas cawn eu gweled mwy hyd ddydd y cwrdd cyffredinol, a'r cyfrif diweddaf. Mae lluaws mawr o'n cenedl yn preswylio yn Wisconsin.* * * ROBERT EVERETT."

Yr ydym yn dra sicr iddo ar y daith a nodwyd adael dylanwad da ar ei ol yn y tai lle y bu yn aros, ac yn yr eglwysi lle bu yn pregethu. Cefais fraint o'i wrandaw yn traddodi amrai o bregethau yn Ohio, ac mi a sylwais ar un peth yn neillduol pan fyddai yn pregethu, sef ei fod yn teimlo dylanwad y gwirionedd yn bur fuan ar ol dechreu ei anerchiad, ac yna fod y gwrandawyr yn teimlo yr un dylanwad. Yr oedd ei bregeth yn gyffelyb i wlaw yn y gwanwyn yn disgyn yn naturiol, ac yn aros o ran ei ddylanwad daionus, nes peri adfywiad ar y rhai a blanwyd yn y winllan ysbrydol.

Ar ol iddo lafurio yn ddiwyd fel golygydd y Cenhdwrr, ac i ofalu am yr eglwysi oedd dan ei ofal, o'r diwedd gwnaeth ei gyfansoddiad ddechreu dadfeilio, oblegid dywedodd mewn llythyr, yn y flwyddyn 1865, fel y canlyn: "Mae fy llais wedi myned yn wan iawn; weithiau yr wyf yn methu yn lân a dywedyd fel y clywo y rhai pellaf yn y gynulleidfa. Yr wyf wedi bod yn lled wael gan boen yn fy nghefn, yn methu myned i'r capel am bedwar Sabboth, ond yr wyf yn well."