Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae yn debygol na chafodd ei adferu i'w nerth cyntefig, oblegid yr ydoedd yn son am yr un afiechyd yn 1866. Dyma fel yr ysgrifenodd; "Yr wyf yn cael fy mlino gan wendid llais-nid bronchitis, ond y nerth yn pallu-gwendid mae'n debyg yn y system yn gyffredinol. Wel, nid hir y byddwn yma—ymofynwn am fwy o burdeb, a pharodrwydd i'r wlad well."

Yn y flwyddyn uchod, sef yn 1866, efe a gafodd foddlonrwydd mawr i'w feddwl trwy iddo fwynhau cyfarfodydd mawrion yn New York. Ar ol iddo ddychwelyd adref gwnaeth anfon atom, "Bum i a'm priod yn New York yn yr anniversaries. Cawsom gyfarfodydd tra rhagorol-yr oeddynt yn lluosog—a'r areithiau yn dra gwerthfawr ac interesting. Gwerthfawr oedd cael bod yn nghwrdd Jubili y Gymdeithas Feiblaidd a'r cyrddau eraill oeddynt werthfawr iawn. Da oedd genym gael y fath wledd unwaith cyn ymadael."

Gan iddo gael y fath hyfrydwch yn y cyfarfodydd mawrion yn New York, pwy all ddirnad y pleser mae ef yn gael yn awr yn y cyfarfod mawr yn y nefoedd, yr hwn sydd i barhau yn dragywydd?

Hawdd fyddai i mi ysgrifenu yn helaeth am y Parch. R. Everett, ond gwell i mi fod yn fyr, rhag chwyddo y Cofiant i ormod o faintioli. Gallaf ddywedyd hyn cyn terfynu, ei fod yn meddu ar fwy o rinweddau wedi cydgyfarfod ynddo na nemawr o ddynion, megys dysgeidiaeth, addfwynder, gochelgarwch, amynedd, ffyddlondeb, parodrwydd i weithredu o blaid dirwest pan nad oedd ond ychydig yn cyduno ag ef, ac o blaid rhyddhad y caethion yn foreu iawn, tiriondeb mawr at ereill, duwioldeb amlwg neillduol, &c.