Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dros yr egwyddorion a'r mesurau a amddiffynir gan y llywodraeth.

Gwneyd hyn fyddai pleidio y farbariaeth waethaf a ffieiddiaf ar y ddaear. Nis goddefir rhyddid ymadrodd, mwy na rhyddid y wasg, yn y De. Merched ieuaine gwylaidd a rhinweddol a ddynoethir ac a fflangellir ar g'oedd yno, am yngan gair eu bod yn bleidiol i ryddid, ac yn erbyn y gorthrwm caeth. Mae ffeithiau sicr yn profi i hyn gael ei wneyd yn agos i Memphis, Tennessee; ac y mae llawer o'r dynion mwyaf egwyddorol a rhinweddol wedi eu rhoi i farwolaeth yn y De am yr un peth. Dydd barn yn unig a ddatguddia y creulonderau a ddyoddefwyd, nid gan ddynion duon yn unig, ond gan eraill hefyd.

Profir trwy ffeithiau sicr fod llaweroedd yn y De yn cael eu gorfodi i wisgo arfau ac i fyned i faes y gwaed, o blaid gwrthryfel a ffieiddiant ac yn erbyn llywodraeth a garant, neu gael eu saethu eu hunain! Y rhai hyn ydynt rai o'n rhesymau dros yr ymdrech a wneir i ddarostwng y gwrthryfel a phleidio y llywodraeth, er nas gellir gwneyd hyny ond trwy arfau milwrol." Yn mis Hydref, yr un flwyddyn, y mae'n dywedyd, "Pan byddo gwrthryfel yn cyfodi yn erbyn llywodraeth gyfiawn a daionus, a hyny fel y gwneir yn awr, i helaethu gallu pendefigaidd gormeswyr i ddal eu gafael mewn miliynau o bobl—i'w prynu a'u gwerthu fel anifeiliaid yn y farchnad—ac i gael maes helaethach i hyny—credwyf y dylai y fath lywodraeth yn y fath amgylchiadau amddiffyn ei hawdurdod a darostwng yn llwyr y gwrthryfel, er gorfod gwneyd hyny trwy rym y cleddyf."

Tra y credai fod yn ddyledswydd ar y llywodraeth