Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Nid dyn didda a diddrwg, ond dyn llawn o ddaioni—pleidiwr pob achos daionus, ac un nas gall dim ei ddenu na'i ddychrynu oddiar lwybr cydwybod yw Dr. Everett." Drachefn, "Efe ydyw y dyn puraf a adwaenasom erioed. Ni lygrwyd mo hono ef erioed gan wirodydd a diodydd meddwol, ac ni fu erioed yn ngafaelion ac o dan ddylanwad yr arferiad caethiwus, gwastraffus, anfoesgar, anfoneddigaidd, anweddaidd, gwrthun, gwael, budr, bawlyd, brwnt, llygredig, aflan, ffiaidd a drewedig, ie, yr arferiad sydd yn darostwng dyn, creadur mor urddasol yn nghadwyn bodolaeth, i bellderau dirfawr yn is na'r anifail a ddyfethir, sef cnoi a chwiffio myglys, a'r hwn arferiad a fedr rifo ei ddeiliaid wrth y miloedd yn mysg ein cenedl ni y Cymry. Teimla ysgrifenydd y llinellau hyn ei hun o dan rwymau arbenig i'r Dr. am y cymorth a gafodd ganddo trwy gyngorion a chyfarwyddiadau, i ymryddhau o afaelion cryfion, gafaelgar, braidd diollwng, a bron ́anorchfygol yr arferiad gwarthus o chwiffio myglys, yr hyn a effeithiwyd er ys mwy na phedair blynedd bellach."

Yn hanes gwerthfawr Mr. Phillips cawn y gofres ganlynol o'r llyfrau a argraffwyd yn swyddfa y Cenhadwr, sef Cofiant y Parch. W. Williams, o'r Wern; Cofiant y Parch. Daniel Griffiths, Castellnedd; Crefydd Deuluaidd, neu Eglwys yn y Ty, gan y Parch. Matthew Henry; yr Haul yn Glir, gan y Parch. Thomas W. Jenkyn, D. D.; Uncle Tom's Cabin, gan Mrs. Harriet Beecher Stowe; Yr Egwyddorydd, y rhan gyntaf gan R. Everett; Arweinydd i ddysgu darllen yr iaith Gymraeg; Addysgydd, neu y Catecism Cyntaf, o'r argraffiad a gyhoeddwyd yn Nghym-