Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r arferiad o'r diodydd meddwol o bob math, fel diodydd, ydyw yr egwyddor y dylem lynu wrthi, yn nghyd a gweddi ddyfal at Dduw am ei fendith ar yr ymdrech er sobri'r wlad a'r byd, a dwyn pawb at y Gwaredwr.

Mae'r cyfnewidiadau mawrion sydd yn debyg o gymeryd lle yn Mhrydain drwy ysbryd rhyddfrydol yr oes—y dadgysylltiad rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth—a diwygiadau eraill, yn awgrymu pethau mawrion. Mae y symudiadau hyn yn Mhrydain, terfyniad awdurdod dymorol y Pab yn Rhufain, a'r chwyldroadau rhyfedd a gymerant le ar gyfandir Ewrop y dyddiau hyn, yn dangos y gwelir golwg wahanol ar bethau ar ddim ydym ni wedi weled eto. Teyrnasoedd y byd a ddeuant yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef—ac i'w enw y bydd y gogoniant.

Yn awr, anwyl frodyr a chwiorydd yn eglwys Dinbych, terfynaf y cyfarchiad byr hwn atoch mewn atebiad i'r eiddoch. Byddwn ddyfal i lynu wrth yr Arglwydd, i symud yn mlaen gyda'r oes mewn diwygiadau, ac i fod yn ffyddlawn gyda holl ranau gwaith yr Arglwydd; ein henaid fyddo yn pwyso ar y taliad mawr a wnawd ar Galfaria fel sail am fywyd, a'n hymestyniad fyddo am fwy o'i ddelw anwyl ef, er ein cymwyso i'r gymdeithas sydd fry. Mae hwyrddydd bywyd ar derfynu arnaf. Ond nid yw hyny yn ofid, ond yn hytrach yn llawenydd i mi. Gwn fod cael preswylio yn y ty holl ddyddiau fy mywyd yn hyfryd iawn genyf, ac y mae fy ngobaith yn dyfod yn fwy clir o bryd i bryd, fel y mae cysgodion yr hwyr yn ymdaenu drosof, y caf fod byth gyda'r teulu yr ochr draw. Ond o ryfedd drugaredd a gras, ar sail iawn y