Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tad cyn ei farw, oddieithr fy anwyl chwaer Elizabeth, yr hon oedd wedi tori ei braich tua phythefnos cyn hyny, ac nid oedd yn alluog i drafaelio. Daeth hefyd fy modryb o New York Mills, ei unig chwaer yn y wlad hon, i weini iddo yn ei ddyddiau olaf. Cyn diwedd yr wythnos yr oedd fy nhad rywfaint yn well, a gobeithiem y cawsai ei adferyd. Ond buan y chwalodd ein hoff obeithion. Ail afaelodd ei wendid blaenorol ynddo yn dynach nag erioed, ac ymollyngodd yn raddol dano hyd foreu y diwrnod y bu farw, pan gymerwyd ef gan dair o chills, y naill ar ol y llall, ac felly ar yr awr a nodwyd, yn dawel a hollol ddiymdrech y cauodd ei lygaid fel plentyn yn huno, ac y peidiodd ag anadlu.

Yr oedd fy nhad yn llawn o awydd am fyned adref i'r nefoedd drwy ei salwch byr diweddaf. Y gair cyntaf a ddywedodd wrthyf wedi i'r doctor ddywedyd mai y pneumonia oedd arno, pan aethum at ochr ei wely, oedd, "I am almost home!" Pan ofynai y doctor iddo dro arall sut yr oedd, atebai, "Very happy;" ac wrth fy mrawd dywedai, ei fod yn hiraethu am fyned adref, ac yn dymuno i'w blant oll ei gyfarfod yn y nefoedd. Ni soniodd un gair am wella. Yr oedd ofn marw wedi cilio yn hollol. Nid oedd un petrusder ynddo pa le yr oedd yn myned. Ac nid rhyfedd genym hyny, canys nid oedd yn gymwys i unlle ond y nefoedd.

Teimlai yn ofidus fod y gwaith ar y Cenhadwr yn cael ei atal yn ystod ei afiechyd. Holai a oedd hanes marwolaeth rhai personau a enwai yn cael eu rhoi i mewn, ac am ysgrifau eraill ag oedd newydd eu cael pan gymerwyd ef yn sal. Yr oedd ei feddwl a'i syn-