Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn mhlith ein cenedl ag y mae wedi bod er ys blynyddau. Ni byddai yn erlid a dirmygu y rhai a fyddai yn ei erbyn, ond trwy fwyneidd-dra yn ceisio eu henill i'r iawn allan o fagl y diafol.

Yr oedd yn hynod am ei diriondeb a'i addfwynder. Dangosai hyny at ei deulu ac at bawb. Unwaith yr oedd ef a Mrs. Everett yn myned gyda eu gilydd ar y train i Utica; tynasant sylw lady oedd yn y car, tu ol iddynt, wrth weled ei sirioldeb tuag at ei briod, a'i ofal am dani, a'r ddau yn hen a llesg. Nis gallai y foneddiges beidio edrych arnynt; sylwodd arnynt yn dod o'r cars, dilynodd hwy i'r depot; nis gallasai yn ei byw beidio eu dilyn ac edrych arnynt, mor anwyl o'u gilydd; aeth ar eu hol yn mhell yn y dref, nes iddynt fyned i ryw dy, a bu agos iddi a myned i'r ty ar eu hol i ofyn pwy oeddynt. Cafodd wybod rwyfodd pwy oeddynt. Gadawsant argraff ar feddwl y lady fod crefydd yn gwneyd hen bobl yn dirfion, yn serchus eu calonau, ac yn ddymunol yr olwg arnynt yn eu henaint. Yr oedd Dr. Everett yn hynod o dirion ac addfwyn hefyd wrth bregethwyr ieuainc; ni wnai ac ni ddywedai ddim i'w digaloni.



Dyfyniadau o Erthygl yn y Cronicl.

GAN GRUFFYDD RHISIART, YN 1872.

Dr. Everett, neu fel yr adnabyddid ef er's triugain mlynedd yn ol, "Everett bach, o Ddinbych." I ddynodi anwyldeb y defnyddid yr ansoddair "bach," er nad ydyw y Dr. ond bychan o gorpholaeth.

Ionawr 19, 1872, cyflwynwyd iddo "dysteb," oddiwrth Gymry America-tipyn dros ddau can' punt.