Tudalen:Cwm Glo.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CWM GLO

'Does dim ceffyl gwell nag e 'leni. A mi ges-i'r tip o'r reit fan, mei boi. Good Luck, oedd ei fam e, a Jim Crow oedd ei dad. 'Roedd Lucky Star a Starlight yn perthyn iddo ar un ochr, a My Jim a Croc Crow yn ei waed e ar yr ochr arall. Oes swllt gyda . . Bah!! (Sylwa nad yw IDWAL ddim yn gwrando arno. Y mae hwnnw, tra fu DAI yn clebran, wedi tynnu sialc o'i boced, ac ar focs glo yn ei law wedi torri diagram theorem Pythogoras. Edrydd y theorem wrtho'i hun gan ddilyn y llinellau-weithiau a'i fys trwy'r awyr, weithiau a'r sialc ar y diagram. Croesa BOB ato, a sylwi yn ddistaw arno. Pan wel ei fod yn methu myned ymlaen, ar yr un munud ag y bydd DAI yn gofyn am y swllt, gofyn iddo):

BOB.-Beth wyt-i'n wneud? Dangos hi i fi.

IDWAL.-'Dwyt-i ddim yn gwybod digon o Geometry i ddilyn hon, mae arna-i ofn. Mae hi'n un o'r rhai anodda sy gen-i i'w gwneud. Pythagoras Theorem.

BOB-Rhywbeth am area'r sgwars 'na yw hi, iefe ddim?

IDWAL.-Ie; 'wyt-i'n gweld y right angle triangle 'na?

BOB.-Triangle ABC. Odw. (Enwer y llythrennau bob tro yn Saesneg).

IDWAL.-'Rwy-i i brofi bod y sgwâr ar yr ochor hir 'na- A C. yr hypotenuse, weldi e? Sgwar AC DE yr un area yn gywir â'r ddau sgwâr ar A B a BC gyda'i gilydd. The square on A C equals the sum of the squares on the other two sides.

BOB (yn dilyn y diagram a'i fys).-A CDE yr un area yn gywir â AB F G plus BCH K.