Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cwyn Lewis Rees a'i chwaer Ann am eu halltuddiaeth am ladrad yn Nolgellau.djvu/2

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyma ddiwrnod caled hynod,
Ar galon Lewis Rees,
A'i chwaer Nancy, aeth mor sydyn
Trwy dori deddfau Crist,
Heb un gobaith gwaredigaeth,
Taith hir faith ydyw hon,
O mor galed ydyw clywed
Y fath deimlad dan ein bron,
Mae lle yr y'm ni'n awr,
A'r deddfau bach a mawr,
Ni chawn weled chwaith na chlywed
Gan neb am doriad gwawr
Rhaid yw aros yn yr hir-nos.
A myn'd i wlad y Negro du,
Dan gaethiwed, heb gael clywed.
Ymwared mwy i ni.
Yn dyoddef gwaethaf gwg,
Yn mysg y tarth a'r mwg.
Y diffyg gwynt mewn lleoedd enbyd
Llawn sulphur drewllyd drwg.
On cawn ninau dd'od oddi yma,
Mi ganwn yn iach, mi wn,
Am gael yn wiwlon dd'od o waelod
Fath hynod le a hwn.

Fe aeth rhai o'n blaenau ninau,
O dre' Caernarfon lon,
Mon a Dinbych, a Threfaldwyn,
Dros for a'i eirwin don,
A swydd Feirion i'w halltudio,
Rwy'n cofio am y dydd,
O Feirionydd hardd yr olwg.
Daeth llu a'u bronnu'n brudd!
Fe'n gyrir dros y mor
I blith y duon gor,
I weithio'n galed mewn caethiwed,
Yn slafiaid gwres ac o'r
Dyma sydd yn tori'a clonau,
Yn gyson ddydd a nos,
Ein bod wedi gadael Cymru,
A gwadu Crist a'i gro's,
I blith y Negroes du,
I gwyno yr awn ni,
On a chawn weled gwlad Meirionydd,