Yn gyhoedd ddydd a nos
Nes eu gyra i warthryddu,
Eu teulu yn mhob oes
Mae'n galed ar bob gwr
Sy'n magu plant yn siwr.
Wedi hyny yn eu gweled,
Yn myned dros y dwr
Pan yn gweled ac yn clywed.
Maent oll dan deimlad dwys,
Oll yn gwaeddi am eu claddu,
Cyn hyny tan y gwys.
Wel'n awr rwy'n uchel roddi ffarwel.
Yn dawel i fy ngwlad,
A'm cym'dogion oll yn unol
Ae hefyd hen dy fy nhad,
Ni fydd y mor a'i donau hagar
Dim galar mawr i ni,
At fod yno mewn caethiwed.
Ya ngwlad y Negroes du
Yn awr chwi feeligen llon,
Trwy Gymru anwyl gron
O gweddiwch, a myfyriwch.
Na bo i chwi groesi don;
Duw o'i rass a roddo rwydd-deb
I'ch cadw yn eich gwlad,
Ei drugaredd a'i wirionedd,
Sy'n beraidd er lleshad,
Ffarwel i Gymru lan
A'i deiliaid fawr a mân,
O gweddiwch a myfyriwch,
Darllenwch hyn o gân
Byddwch berffaith trwy bob trafferth,
A pheydferth a di sen.
Yw dymuniad dwys ein enaid,
Mewn teimlad byth. Amen
Canodd y bardd y geiriau uchod oddi ar lythyr a dderbyniodd oddiwrth LEWIS REES, o Lundain,
John Jones, Argraffydd, Llanrwst