Tudalen:Cyflafan Ofnadwy Dolgellau.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae nghalon yn dawnsio, yn crio bob yn ail
A'm gwallt ar fy nghoryn yn ysgwyd fel dail;
'Rwy'n credu bod Iesu yn rhoi caniatâd
I dderbyn pechadur, 'nol llythyr fy nhad.

I'r ysgol Sabbathol, cymhellwyd fi fyn'd,
Yn berffaith o galon gan ffyddlon hen ffrind;
A phan gaiff o glywed, caiff wir esmwythad
'Rwy'n credu'r ysgrythyr sy'n llythyr fy nhad.

Na roddwch, ieuenctyd, eich bywyd i'r byd
Rhowch aml ochenaid—mae enaid yn ddrud;
Ein Harglwydd groeshoeliwyd er mwyn ein rhyddhad,
Yw llais yr ysgrythyr sy'n llythyr fy nhad.

'Wel, myned i'r carchar yn gynar a ge's,
Feallai gwna'r carchar i'm lawer o les;
'Dwy'n hidio mo'r carchar, 'rwy'n edrych i'r wlad,
Sy'n nglŷn â'r ysgrythyr sy'n llythyr fy nhad.

Yn fwy na bu'r gwylwyr yn disgwyl erioed,
Am weled y bore', 'rwy'n disgwyl o'r "Coed,"
Am lythyr caredig, a llawn o fwynhad,
'Tyneru fy natur mae llythyr fy nhad.

O dewch at yr Iesu, na feiddiwch ymdroi,
Mae yna le dyddan i'r truan gael troi,
A dyfroedd y bywyd yn rhedeg yn rhad,
Gan Gyfaill pechadur, trwy llythyr fy nhad.

Mae Brenhin brenhinoedd yn anfon ei gais,
O deued 'r hil ddynol i wrando ar ei lais
Mae am i ni 'mostwng, heb wneuthur nacàd
I'w weled yn eglur yn llythyr fy nhad.

Pechodau fel 'sgarlad, fel eira wna'n lân,
A phechod fel porphor gan wyned a'r gwlân;
'Rwy'n wylo wrth feddwl mai caru lleshad
Rhwng Duw a phechadur, mae llythyr fy nhad.
CADWALADR JONES.