Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddawn i chwerthin ar bapur. Peth arall a'm tarawodd oedd ei barch i lefel gyffredin gonestrwydd dynol, hyd yn oed pan sonnid am rai a gyfrifid yn elynion iddo.

Ni sylwais i erioed fod yn ei wladgarwch ddim byd annaturiol. Er hoffed ganddo bopeth Cymreig, ni chlywech ganddo byth mo frawddegau'r gwladgarwr proffesedig. Yr wyf yn sicr na freuddwydiodd erioed bod yn fraint, megis, i'r Gymraeg gael ei wasanaeth ef na neb arall ohonom, ond dywedodd wrthyf unwaith mai braint i ni oedd cael fel ein galwedigaeth waith a garem. Yr oedd ganddo fwy o ffydd nag y sydd gan rai ohonom gyda golwg ar barhâd yr iaith. Eto, pan sonnid ei bod hi mewn perygl, gallech fod yn sicr mai nid rhyw sentimentalwch wylofus a thwyllodrus a barai iddo ef weithio erddi. Gyda'i farwolaeth ef, daeth cyfnod yn hanes addysg a diwylliant cartref yng Nghymru i ben, er y dichon llawer o'r mân ffigurau a lanwai swyddi uchel yn ystod y cyfnod fyw am flynydd oedd eto. Diau fod gwrth ddadlau yn ei waed, ond fe ŵyr ei gyfeillion fod hanner hynny yn ddyledus i'w awydd am fynegi a chyfiawnhau'r peth a ystyriai ef yn gywirdeb diamau. Ni welais odid