Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ei arwr pennaf oedd Edward Lhuyd. Treuliodd ei oes i gasglu hanes y gŵr gwych hwnnw, a'i arfaeth er yn gynnar oedd cyhoeddi ei lythyrau a gweddillion ei lafur, ac ysgrifennu hanes ei fywyd. Dechreuodd ar y gorchwyl pryd nad oedd ef eto onid myfyriwr, a daliodd ato ar hyd ei oes. Gadawodd ar ei ôl bentyrrau o gyfeiriadau, nodiadau a chopïau o sgrifeniadau o waith ac ynghylch Lhuyd, ond bu farw heb gymaint a dodi ar bapur gynllun o'r gwaith a fwriadai. Mor drwyadl oedd ei ymchwil am ddeunydd fel na fynnai ddechrau sgrifennu cyn ei fodloni ei hun ei fod wedi cael y cwbl. Casglodd gymaint o ddeunydd yn wir fel yr wyf yn credu iddo ddechrau amau a allai ef byth gael arno drefn a dosbarth. Ac eto, ni allai roddi'r gorau i chwilio. Bydd trwyadledd dynion fel efô yn peri i ddyn dybio bod mesur o anhrwyadledd yn beth anhepgor i'r sawl a fentro sgrifennu. Ryw flwyddyn cyn ei farw aeth i Iwerddon, lle darganfu lawer o bethau yn llawysgrif Lhuyd, a dywedodd wrthyf ychydig cyn y diwedd y byddai raid iddo fynd i'r Alban ac i'r Cyfandir i chwilio am chwaneg.