Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

canol faint, tenau, megis pe na buasai ynddo ddim ond croen ac esgyrn, cyn galeted â'r dur o'i gorun i'w sawdl. Wyneb cul, a hwnnw fel pe buasai wedi gwystno, fel y gwelsoch ambell afal, onid oedd yn rhychau mân i gyd trosto. Barf lwyd-olau, denau, a fyddai erbyn tua diwedd yr wythnos fel col haidd ar ei gernau a'i ên, a thrawswch o'r un lliw, nad eilliai byth moni. Gwallt llwyd-olau, tenau, a gadwai yn wastad yn fyr. Dau lygad las, garedig, yn gloywi'n rhyfedd ambell waith, pan wenai ef. Cnoai dybaco nes bod ei ddannedd cryfion yn felynion. Pan wenai, gostyngai un cwr i'w wefl isaf fwy na'r cwr arall, a chaeai yntau un llygad y mymryn lleiaf, fel pe buasai ef am wneud llygad bach arnoch. Wrth yr olwg honno arno gallasech feddwl ei fod yn dipyn o walch, ac y deuai geiriau â min arnynt dros ei wefus, Ond os oeddynt yn ei feddwl, ni ddoent byth dros y wefus gam honno.

Cerddai â rhyw hanner plygiad yn ei gorff, y peth tebycaf a welsoch i osgo dyn â phladur yn ei ddwylo, yn camu ymlaen ar fedr torri arfod â hi, a phan âi'n gyflym-ni welais erioed mono, o ran hynny, yn mynd yn araf-ysgydwai ei freichiau