Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CYN y gellid gwneuthur dim tebyg i roddi syniad cywir am wasanaeth a dylanwad y Prifathro Roberts, byddai raid darllen yn fanwl drwy gofnodion y deugain mlynedd diwethaf. Hyd yn oed pe gwneid hynny, byddai yn ei hanes lawer iawn na ellid ei fesur, canys ni pherthynai ef i'r dosbarth lluosog hwnnw sy'n hoffi dawnsio ar ôl amlygrwydd. Eto, nid oes amheuaeth yn y byd na chollwyd dyn anghyffredin yn ei farwolaeth ef.

Nid oedd yn drigain oed, a hyd yn ddiweddar iawn, nid edrychai cyn hyned ag ydoedd. Rhag ei wyleiddied a'i daweled, gallai dyn feddwl na bu nemor gyffro erioed yn ei drigain mlwydd namyn un. Wrth lan ei fedd, ni allwn i beidio â meddwl am derfyn dydd o hydref cynnar, yn rhywle ar draeth Cymru—rhwng Aberdyfi ac Ardudwy, dyweder. Goleuni porffor ar fôr a tharth golau ar fynydd; tawelwch dwfn ar bopeth; hud ar y bryniau a'r nentydd, a rhyw deimlad yn yr awyr fod diwrnod gwych yn darfod yn ei odidowgrwydd a'i aeddfedrwydd; ac eto,