Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod y dydd hwnnw, rywfodd, yn rhy dawel i neb fod wedi gweled ei holl ysblander. Credaf mai prin yr adnabu ei oes ef yn iawn, ac mai cymharol fychan oedd rhif y rhai a'i deallai yn dda. Nid oedd yn debyg iawn i neb o'i gyd-fyfyrwyr yn Aberystwyth, mewn unpeth, er bod yr ansoddau oedd ynddynt hwy bron i gyd ynddo yntau, ac er ei ddwyn i fyny yng nghanol yr un dylanwadau. Hyd y gallaf i farnu, ychydig iawn o ddynion tebyg iddo a berthynai i'r un do ag ef ymhlith ysgolheigion Cymreig. Er na chefais y fraint o adnabod Thomas Edward Ellis yn bersonol, tybiaf mai ef oedd y tebycaf i'r Prifathro o'r holl wŷr ieuainc galluog oedd yn Aberystwyth ar unwaith ag ef. Yr oedd tawelwch Sir Feirionydd yn y ddau, tawelwch Ardudwy yn nyddiau'r hydref. Y mae'r un tawelwch yn eraill o feibion yr un sir, sydd eto'n fyw, yr un gweithgarwch ynddynt a'r un mwynder.

Am y Prifathro, teimlwn bob amser fod dau beth rhyfeddol ynddo—y cywirdeb a'r dyfalwch y ceir cymaint ohonynt ymhlith y Bedyddwyr fel pobl, a'r neilltuedd tynghedfennol a geir yng nghytganau'r ddrama Roeg. Nid wyf yn meddwl ychwaith mai rhyw gais i esbonio yn ôl yr amgylchiadau