Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwres oedd yn anghyffredin iddo. Ac eto, ni fedrwn i yn fy myw lai na theimlo bod ei bwyll wrthi ar ei egni yn mesur a phwyso ei holl eiriau, ac yn gweled gwendid a pherygl pob rhagoriaeth a champ yn glir o'i flaen.

Mewn ymddiddanion personol, sylwais lawer gwaith ar yr un peth. Nid wyf yn sicr nad oedd ei ochelgarwch yn rhy anhyblyg ar brydiau, ond yr oedd ei sefydlogrwydd yn sicr yn ardderchog. Wedi holl droadau ymddiddan hir—milltiroedd o gerdded a siarad—cyfodai niwlen geiriau yn sydyn, megis; ac yno, yn yr un adwy, fel gwyliwr o Roegwr gynt, safai yntau o hyd, yr un fath, ac nid o ddiffyg gwybod na dychymyg na chydymdeimlad â'r ochr arall chwaith.

O ŵr mor gadarn ei fwriad, yr oedd gwyleidddra hynod ynddo, hyd dawedogrwydd. Eto, yn y mân bethau hynny, sy'n dynodi anghofrwydd di fwriad cynifer ohonom, ni chefais i erioed mono'n pallu; a hoffwn yma gydnabod un peth arbennig a gefais ynddo fwy nag unwaith a dwy— cwrteisi hael a meddylgar, yn groes i bob defod ac arfer ffurfiol sydd, bron o angenrheidrwydd, yn rheoleiddio amgylchiadau cymdeithasol.