Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysgrifennu Cymraeg yn ieuanc. Yr oedd elfen brydyddu ynddo hefyd, ac enillodd wobrau yn gynnar yn y cyfarfodydd cystadleuol a gynhelid yn yr ardal a'r cymdogaethau. Clywais gan rai a'i hadwaenai'n hogyn mai un distaw, dwys, ydoedd. Un felly fu ar hyd ei oes.

Dechreuodd gael blas ar ddarllen nofelau tra'r oedd yn y chwarel. Dywedodd ei hun wrthyf fel y cafodd afael yn rhywle ar gopi rhad o un o nofelau Charles Dickens, os da fy nghof, a'r modd y darllenodd honno drwy drafferth nid bychan, am mai prin oedd ei Saesneg. Tarawodd yr ystori honno, ac eraill a ddarllenodd tua'r un adeg, yr elfen oedd yn ei natur ef ei hun, a dychmygai fel y byddai yntau, rywdro, yn nofelydd.

Pan oedd tuag ugain oed, gadawodd y chwarel. Casglasai ddigon o arian i dalu am ychydig ddysg iddo'i hun. Y pryd hwnnw, yr oedd yng Nghaernarfon ysgol ramadegol fechan, "Ysgol Jones Bach," fel y gelwid hi—cof da am yr athro, hen ŵr bach, yn mynd ar ryw hanner tuth a'r naill law ym mlaen llawes y fraich arall. Ysgol dda oedd " Ysgol Jones Bach," a synnai pawb sut y gallai'r athro roddi cymaint o sylw personol i gynifer o ddisgyblion mor amrywiol a gwahanol