Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ni chawsai eto hyd i'r llawysgrifen oedd naturiol iddo, nac ychwaith i'r dull gorau i afael mewn ysgrifell. Cydiai ynddi yn rhy agos i flaen y pin dur, a gwasgai hi fel pe buasai gŷn i'w daro â morthwyl; âi'r inc hyd ei fysedd, ac yma ac acw ar hyd y papur, yn ffurfiau amgen na llythrennau ; felly, mynych rwygai yntau ei bapur, a rhoddai ail gynnig arni. Yr oedd yn rhaid iddo ddysgu cymryd llai o le i'w benelinoedd ar y bwrdd ac eistedd dipyn yn sythach. Nid atebai ei eirfa Saesneg i'r alwad arni yn ddigon buan, ac yr oedd ôl Cymraeg yn glynu wrth ei gystrawen, fwy na pheidio. Gallesid tybio mai torri ei galon a wnaethai, a thybiwyd mai dyna a ddigwyddodd, canys ni bu'n hir gyda'r gwaith. Collwyd golwg arno yn sydyn, ac ni wyddai neb i ba le yr aethai.

Pan welwyd ef drachefn, yr oedd ei ystum wedi newid. Dysgasai drin yr ysgrifell yn y ffordd briodol i'w law, ac yr oedd yn feistr ar Law Fer Pitman. Cafwyd allan beth o'r hanes ymhen amser. Buasai'n gweithio mewn rhyw ffowndri yn Lerpwl am ryw hyd, ac aethai o'r diwedd i ysgol yn Llundain. Yno, dan athrawon synhwyrol y mae gennyf barch iddynt, pwy