Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganddo ddigon o wybodaeth o'r Ffrangeg i ddarllen nofelau ynddi hithau. Darllenodd hefyd gyfieithiadau Saesneg o'r nofelwyr Rwsiaidd, a manwl astudiodd grefft ysgrifennu'r ystori fer yn enwedig; ac yr oedd ers tro cyn ei farw yn feistr ar y grefft honno, yn sicr. Rhwng Cymraeg a Saesneg, ysgrifennodd yn ddiau rai cannoedd o ystraeon byrion, ac y mae yn eu plith o leiaf rai cystal ag a ysgrifennwyd yn unman erioed.

Ysgrifennai am y bywyd a adwaenai, ac fe adnabu lawer gwedd ar fywyd hefyd, o fywyd chwarelwyr Arfon hyd at fywyd ysgrifenwyr a cherddedwyr, a'r dyrfa gymysg a weithiai yng ngweithfeydd darpar y Rhyfel. Cyfarfu â chymeriadau hynod, a gwelodd ochr ddu'r peth a eilw llau a chwain cymdeithas yn " ogoniant." Clywais ef yn adrodd hanes un noswaith—gwynt a glaw a thywyllwch; tyrfa gymysg, rhyw ddi gwyddiad cynhyrfus, a chyffro yn corddi dyfnderoedd tywyll natur dyn. Yng nghanol y cyffro i gyd, a chyrff rhai dynion wedi eu chwythu fel na welwyd byth na migwrn nac asgwrn ohonynt, safai un hen ŵr o Gymro â'i gefn yn erbyn rhyw gaban, ac adroddai yn bwyllog—"Wel, dyma