Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un Sul poeth, ciniawai gyda ni. Wedi'r pryd, gofynnais iddo a fynnai orffwyso ychydig. Nid âi i wely, ond dywedodd mai da fuasai ganddo gysgu ychydig, gan fod anhunedd yn ei boeni ar y pryd. Dodais glustog tan ei ben ar lwth wrth y ffenestr, a hugan trosto. Tybiais ei fod yn cysgu. Tywynnai'r haul arno trwy ddail y pren masarn o flaen y ffenestr. Daeth tristwch drosof wrth edrych ar ei wyneb a gwylio ymchwydd ei anadliad.

"Waeth heb, ddaw o ddim !" meddai gan godi ar ei eistedd yn sydyn, "awn allan am dro."

Allan â ni. Yr oedd ef mor hoyw a bywiog â phe cysgasai noswaith. Dywedodd lawer o'i hanes wrthyf. . . Y noswaith honno, buom yn canu emynau Cymraeg, a dwy neu dair tôn o'i waith ef ei hun. Pan euthum i'w ddanfon i'w lety ar ôl swpera, yr oedd hi'n un ar ddeg o'r gloch, ond siaradai mor fywiog ag erioed, a chwarddai wrth sôn am ei ieuenctid.

Yr oedd dau gyfaill wedi galw yn fy nhŷ un noswaith, un ohonynt yn delynor, a thelyn i'w ganlyn. Tuag un ar ddeg, pan oedd y telynor wrthi yn canu penillion ar "Ben Rhaw," daeth Syr Henry heibio. Buwyd wrthi awr yn hwy.