Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ehedydd yn canu yng nglesni'r awyr gynnes uwch ein pennau. Sôn yr oedd ef am bwrpas bywyd a'i ymdrech barhaus i ymberffeithio a chyrraedd rhyw nod. Soniodd am alar ei wraig oblegid colli mab.

"Yr oedd hi'n drist iawn ac yn ddwys," meddai. "Cymerais hi allan i'r ardd un diwrnod—yr oedd hi yn hoff ryfeddol o flodau. Gofynnais iddi 'A ydych chwi yn meddwl ei fod ef a wnaeth y blodyn hwn, a'i brydferthwch a'i holl fanyldeb, yn mynd i fethu i'r mesur lleiaf yn y lleiaf un o'i amcanion? Nid wyf i!"

Bu ddistaw am ennyd ac yna meddai gan syllu ym myw fy llygaid petrus innau:

"Na, 'dydi o ddim yn mynd i fethu!”

Odid glywed ei debyg am adrodd ystraeon. Mewn cwmpeini un diwrnod, soniem am y bobl fydd yn dychmygu pethau yn fyw iawn ac yna'n eu mynegi fel ffeithiau.

"Rhaid i mi adrodd i chwi un ystori," meddai, "am un hogyn bach felly a adwaenwn i. Byddai bob amser yn adrodd ei ddychmygion fel ffeithiau, a'i fam yn ei geryddu a'i ddanfon i ofyn i Dduw faddau iddo am ddywedyd anwiredd. Un diwrnod daeth i'r tŷ a dywedyd ei fod wedi gweled