hwnnw yn ddigon cryf i roddi rhywfaint o awdurdod i'r neb a hawliai'r teitl.
Erbyn amser Hywel, fodd bynnag, rhywbeth annelwig iawn oedd brenhiniaeth, ac amhosibl, fel y dywedwyd, wahaniaethu rhyngddi ag awdurdod gyfyng arglwydd y cymwd—y sonnir amdano weithiau fel arglwydd ac weithiau fel brenin. Gwelir yr anhawster yn amlwg wrth geisio olrhain yn y cyfreithiau y berthynas rhwng y naill frenin a'r llall. Yn ben ar y cwbl, medd Hywel, yr oedd brenin Prydain a'i orsedd yn Llundain, y telid iddo £63 bob blwyddyn. Y mae'n debyg mai ffiloreg noeth oedd hyn, neu yntau adlais o'r dyddiau pan orfyddid i'r Cymry dalu teyrnged i swyddog Rhufeinig ym Mhrydain, neu o gyfnod boreach fyth pan hawliai'r Celt y wlad i gyd. Nid oes dim sail i gredu bod y Cymry erioed wedi talu'r swm hwn i frenin Lloegr nac ychwaith wedi cydnabod ei awdurdod ond o orfod. Glynai'r Cymry o hyd wrth yr hen syniad mai trawsfeddianwyr oedd y Saeson, ac mai hwynthwy oedd biau Prydain oll, a'u brenin tybiedig hwy yn Llundain yn ben arni.[1]
Pan ymsefydlodd y llwyth a meddiannu cyfran o'r wlad, but newid cyfatebol yn natur awdurdod y pennaeth. Peidiodd a bod yn bennaeth neu batriarch, a daeth yn arglwydd. Gwelir hyn yng nghyfnewid yr enw nid fel Rhi yr adwaenir ef mwyach, ond fel brenin neu arglwydd.[2] Dechreuasai'r gyfundrefn ffiwdal gael y llaw uchaf ar y gyfundrefn genhedlig.
Yn ôl cyfreithiau Hywel, yr oedd Cymru wedi ei rhannu yn gantrefi, ac ym mhob cantref yr oedd dau neu ragor o gymydau. Nid yw'r cyfreithiau yn glir iawn parthed perthynas y naill a'r llall. Y mae'n bosibl bod y cantref yn cyfateb i'r hyn a elwid gynt yn wlad, sef y darn hwnnw o dir yr ymsefydlasai llwyth arno. Ar y llaw arall, dichon, fel yr awgryma'r enw, mai uno cant o drefi yn ffurfiol â'i gilydd a wnaed rywdro gyda'r amcan o sefydlu rhywfath o lywodraeth drostynt. Bid a fo am hynny, dengys cyfreithiau Hywel fod y cantref erbyn hynny wedi colli pa bwysigrwydd bynnag a berthynai iddo gynt, ac mai'r cymwd bellach oedd canolfan awdurdod a llywodraeth. Manylion am lys a llywodraeth y cymwd a geir yn y cyfreithiau, a dangosir y cantref fel peth wedi gorfyw ei ddefnyddioldeb, a'i enw yn unig yn awgrymu ei bwysigrwydd