
gynt. Yn Nyfed ceir cyfeiriad at lys cymwd neu gantref,[ref>Ancient Laws, I, 472</ref>ond yng Ngwynedd ni sonnir ond am lys cymwd yn unig.[ref>Hynny yw, os nad ydym i ddeall mai ynad y cantref olygir wrth y term ynad llys" ("enat llis"neu "egnat ekemut "), I, 144</ref> Felly, ynglŷn â chyfraith a llywodraeth, y cymwd oedd canolbwynt yr hen gyfundrefn. Llywodraethid pob cymwd gan arglwydd, a gadwai ei lys gyda rhyw gymaint o rwysg mewn lle canolog o fewn y cymwd. Yr oedd iddo 16 o weision a ddaliai bawb ei swydd yn y llys, ac yr oedd gan yr arglwyddes, hithau, osgordd o wyth o weision a morynion. Fel y dywedwyd eisoes, ni wahaniaethir yn y cyfreithiau rhwng swydd brenin a swydd arglwydd, ond y mae'n lled sicr nad oedd gan yr arglwyddi lleiaf gynifer o swyddogion ag a ddywedir yn y cyfreithiau—a dichon nad oedd gan y tywysogion, ychwaith, gynifer â hynny bob amser. Y mae rhestr o'r