Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y wlad, ac mai disgynyddion y brodorion cyntefig a orchfygasid gan y rheini oedd y taeogion. Ni ellir, ysywaeth, ddibynnu ar y ffigurau a geir yn y cyfreithiau ynglŷn â'r tir a ddelid gan y naill ddosbarth a'r llall, ac y mae'n amhosibl penderfynu cyfartaledd y rhydd a'r taeog yn y cymwd. Gellir gweled, fodd bynnag, oddi wrth y stentiau a wnaed gan y Normaniaid, beth oedd cyflwr y wlad pan feddiannwyd hi ganddynt hwy, ac y mae'n eglur bod llawer mwy o'r bobl yn rhydd yng Nghymru nag yn Lloegr. Yn ôl tystiolaeth Domesday Book, tua chwarter poblogaeth Lloegr oedd yn rhydd a thri chwarter yn gaeth, ond yng Nghymru, ym marn Mr. T. P. Ellis, yr oedd y cyfartaledd yn hollol i'r gwrthwyneb.[1]

Cynhelid y llys, fel rheol, yn yr awyr agored—yn wyneb haul a llygad goleuni—a phan fyddai ymrafael ynglŷn â therfynau, cynhelid ef ar y tir yr ymrafaelid yn ei gylch. Yr arglwydd, fel rheol, fyddai llywydd y llys, gyda nifer o wŷrda a hynaf— gwŷr y cymwd o boptu iddo. Yng Ngwynedd a Phowys, y Barnwr fyddai'n rhoddi barn, ond mynnai gwŷr y De ddal at yr hen drefn, hynny yw, hawlient gael eistedd yn y llys fel barnwyr,[2] fel y gwneid yn y dyddiau gynt.

Nid ar chwarae bach y deuid yn Farnwr. Dyry'r cyfreithiau ddisgrifiad manwl o'r ddisgyblaeth angenrheidiol. Rhaid oedd bod yn gyfarwydd â llyfr y gyfraith, a mynychu'r llys i glywed y barnwr wrth ei waith am flwyddyn o amser o leiaf. Caniateid i'r disgybl ofyn cwestiynau yn y llys ar unrhyw beth a fai'n ddyrys iddo. Ar derfyn y tymor, cymerid ef mewn llaw gan y caplan a deuddeg o wŷr amlycaf y llys, ac arweinid ef at yr allor, ac yno gofynnid iddo gymryd llw ar y creiriau na ŵyrai farn unrhyw amser, ac yna fe'i cyfrifid yn deilwng i gael ei ddewis yn farnwr.[3]

Yr oedd i lys y cymwd ddyletswyddau eraill heblaw gwein— yddu cyfiawnder. Ynddo ef y trefnid materion ynglŷn â diwydiant y cymwd, yn union fel y gwneid yn y llys barwn, gyda'r gwahaniaeth bod awdurdod llys y cymwd yn ehangach am ei fod yn gweinyddu cyfraith y wlad, a'r llys barwn yn gweinyddu'r gyfraith dir, a hynny yn ôl arfer y manor yn unig.

Cyfansoddid y cymwd, fel y gwyddys, o nifer o drefydd—y sefydliadau gwasgarog hynny lle trigai'r Cymry pan ddaethant gyntaf i'r iseldir. Y mae'n sicr mai ychydig a ymyrrai'r

  1. T. P. Ellis: Hywel Dda, Codifier. Cymru Trans. I. (1926—27), p. 30
  2. 15 Ancient Laws, I, 468
  3. Ancient Laws, I, 370—2