fyddai'n anfon allan y wys. Efô oedd yn gyfrifol am y rhyddwystly[1] (frank—pledge) ddwywaith yn y flwyddyn, a'i waith ef hefyd oedd gofalu am felin yr arglwydd. Swydd bwysig arall a ddisgynnai i'w ran oedd arddel yr alltudion a ddeuai o dro i dro i fyw i'r arglwyddiaeth. Efô a gasglai bob dirwy: ac yr oedd ei dir yn rhydd iddo fel i'r maer gynt.
Swyddog arall o gryn bwysigrwydd yn y cyfnod Normanaidd oedd y rhingyll. Lle nad oedd manor (a adwaenid yn fynych fel raglotry) ceid ringildry. Yr oedd hwn yn ddatblygiad llai manoraidd er enghraifft, yn y siartr a roddodd Henry VII i denantiaid arglwyddiaeth y Waun, sonnir am gymwd Nanheudwy a Ringildry Mochnant, a hefyd am gylch rhingyll fel un o'r pethau a ddifodwyd gan y ddeddf honno. Gwŷr rhydd oedd tenantiaid y ringildry bob amser, ond tenantiaid caeth, ar y llaw arall, oedd yn y raglotry—hynny yw, tyfodd y manor lle yr oedd maerdref gynt. Yr oedd dyletswyddau'r rhingyll yn gyffelyb i eiddo'r rhaglaw, ond nid oedd ei awdurdod cyn changed, gan fod mwyafrif tenantiaid ei ranbarth yn uchelwyr, a mwy o annibyniaeth yn perthyn i'w safle.
Swyddog arall y ceir cyfeiriad ato oedd y cais—Sergeant of the Peace. Y mae'n debyg mai ei waith pennaf ef oedd diogelu heddwch y cymwd, fel y dengys y gŵyn a ganlyn a wnaed gan rai o denantiaid y Waun yn nyddiau Gwylliaid Cochion Mawddwy.[2]
To the Right Worshipful Master Steward of Chirkland Grevously compleynith unto your masterships all ye kynges true tenantes of Kenlleth and Moghnaunt in Chirkland how that thay be dayly and nyghtly robbyd and thare goodes and catelles stollyn from them aswell into powyshlande, mowtheway and merrionnethshyre as oder countries to thayme adjoyning within this twoo monthes to ye valew of C. merkes and above. And all indefaute of a good officer, for keepyng of the countrey, as hathe been accustomed in tymes paste. For ye seargeant of ye peas called ye pencayse hathe used to watch in dyvers places of ye countrey And take thevis and mysrewlye persons
- ↑ Chirk Castle and Chirkland, 115. Awgryma Ellis mai datblygiad Normanaidd oedd swydd y Cais: Welsh Tribal Law and Custom, I, 310.
- ↑ Yr oedd y rhyddwystl (frank—pledge) yn un o drefniadau mwyaf nod— weddiadol yr Oesoedd Canol. Yr amcan oedd sicrhau heddwch a llonyddwch drwy orfodi pawb i fod yn perthyn i ryw dre ddegwm neu gilydd, neu i undeb o bersonau a adwaenid fel y tithing a thrwy gosbi y dre ddegwm a geid yn euog o adael rhywrai o'i mewn oedd heb fod yn aelod ohoni. Delid y dref ddegwm yn gyfrifol am ymddygiad ei deiliaid.