Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

And bryng thame to ye castell, wiche watch and exersise of ye said office made odre outlaws And theves for fere of ye same to Forbere, And durst not invade ne cume within ye said countries till this ij yeres paste that that office hath not been delygently exercised ne occupiede to ye great impoveryshenge And undoyng of all trewmen in ye said countries.

Pan gollodd Cymru ei hannibyniaeth yng nghwymp Llywelyn yn 1282, bu cryn newid ar ei chyfundrefn lywodraeth. Dechrau'r newid hwnnw oedd Ystatud Ruddlan, neu, yn fwy cywir, Ystatud Cymru, a basiwyd ym Mawrth, 1284. Rhoddwyd yr ystatud honno mewn grym gan Edward I ar ôl gwneud ymchwil i arferion Cymru. Bu'r Comisiwn—Esgob Becke, Tyddewi, Reginald de Grey a Walter de Hopton—yn holi tystion, o Gymry ac o Saeson, ynglŷn â'r hen arferion hyn. Holwyd cynifer â 172 o dystion: 19 yng Nghaer, 53 yn Rhuddlan, 36 yn y Fynachlog Wen (?Croesoswallt), 22 yn Nhrefaldwyn, a 42 yn Llanbadarn Fawr.[1] Fe ddisgrifir yr ystatud hon gan Pollock a Maitland, haneswyr cyfraith Loegr, fel y "code" mwyaf cynhwysfawr o ddeddfwriaeth a roed allan gan unrhyw un o frenhinoedd Lloegr yn ystod yr oesau canol.[2] Canlyniad uniongyrchol yr ystatud oedd dwyn Gwynedd ar unwaith dan weinyddiad deddfau Lloegr. Rhannwyd y Dywysogaeth, hynny yw, Gwynedd, yn dair sir—Môn, Arfon, a Meirion—a rhoddwyd y cwbl dan ofal prif farnwr (Justiciar) Gogledd Cymru. Odo de Grandison oedd y cyntaf i lenwi'r swydd, a'i ddirprwy, John de Havering, a ddaeth iddi ar ei ôl. Yng Nghaernarfon y trigai'r prif farnwr, ac yno yr oedd ganddo Drysorlys yn ogystal â Changhellys. Yr oedd Fflint i fod dan ofal barnwr Caer, ac yr oedd dwy sir yn y De—Ceredigion a Chaerfyrddin—dan ofal barnwr Caerfyrddin. Yr oedd i bob sir ei siryf—efô oedd yn gyfrifol am gynnal ei llysoedd ac i bob cymwd ei grwner a'i feili. Y crwner a gynhaliai drengholiad ar gorff y marw; a gwaith y beili oedd gwylio dros fuddiannau tymhorol y cymwd fel gwas y siryf. Cynhelid llys y Sir—Shire Court—nad oedd yn bod yng Nghymru cyn hyn, unwaith bob mis, ac âi'r siryf ei hun drwy'r gwahanol gymydau ddwywaith yn y flwyddyn, ar ôl gŵyl

  1. Ivor Bowen: The Statutes of Wales, Introd., xxx. Ond awgryma Dr. Lloyd: mai amcan politicaidd oedd gan Edward I mewn golwg yn uniongyrchol. "While I do not deny," meddai, "that it has its bearing upon the question of the decay of the Welsh Legal system—and the encroachment of English procedure I believe that its interest is in the main political." Y Cymmrodor, XXV, p. 2.
  2. Pollock and Maitland: History of English Law, I, 199. 90