Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diddorol hefyd yw'r cyferbyniad a wna George Owen rhwng gormes Harri IV a'i olynwyr a hynawsedd y Tuduriaid. Am Harri VII meddai: "This noble Prince being lyneally decended from the auntient Bryttish Kinges of this land so drewe the hartts of the Wellshmen to hym as the loadstone doth the yron whoe ever sithence have borne such naturall love and affection to the sayd King Henry 7 his sonn Kinge H 8 and King Edward the sixt Queene Marye and nowe doth beare towards or most Souveraigne Prynce Queen Elizabeth now lyving whom wee pray the Lord of Lords longe and longe to preserve to governe England and Walles."[1]

Nid oes le i amau na weddnewidiwyd bywyd politicaidd a chymdeithasol Cymru gan ddeddfwriaeth y Tuduriaid. Dyma'r pryd yr ad-drefnwyd Cymru oll yn siroedd ac y dygwyd hi yn gyfangwbl dan awdurdod Cyfraith Lloegr. Dyma'r adeg hefyd y rhoddwyd hi yn ymarferol dan awdurdod llys y Goror-llys a wnaeth waith mawr tuag at ddarostwng awdur- dod unbennaethol arglwyddi'r Mers. Fel pob llys o'r fath, aeth yntau ei hunan yn lled unbennaethol tua'r diwedd, a phan ddiddymwyd ef, ni bu llawer o alaru ar ei ôl. Ond gwnaethai waith da yn ei ddydd, a bu iddo ran amlwg mewn dwyn Cymru newydd i fod.[2]

Dylid cadw mewn cof hefyd fod cyfran lled helaeth o Gymru'r oesau canol ym meddiant y trefydd. Synnir dyn, wrth edrych ar fap ohonynt, fel eiddo'r Athro E. A. Lewis yn ei Mediaval Boroughs of Snowdonia, gan mor lluosog oeddynt; ac nid yw'r cwbl o drefydd anorffen Esgobaeth Tyddewi i mewn yn y map hwnnw. Gwyddom mai Normaniaid a Saeson oedd mwyafrif mawr y dinasyddion; ond, fel y dywed Dr. Lewis, yr oedd cryn wahaniaeth rhwng tref a thref yn hyn o beth. Yr oedd tref castell, fel Caernarfon neu Gonwy, yn llawer mwy Seisnig na thref faenoraidd fel Nefyn neu Niwbwrch, ac yr oedd yr un peth yn wir am fwrch, fel Llawhaden, o'i gymharu â "thref" Llanddewibrefi.

Ond beth bynnag am y gwahaniaethau hyn rhwng tref a thref, fe berthynai iddynt oll ryw gymaint o'r rhyddid hwnnw a oedd yn brif nodwedd tref yr oesau canol, a bu hir y brwydro rhwng Cymro a Norman am fwynhau cyfran o'r rhyddid hwn. Yn araf, trwy briodas a thrwy lacio'r deddfau, fe agorwyd y drws i'r Cymro ddyfod yn ddinesydd ar yr un tir a'r Sais, a chafodd gyfle unwaith eto i ymarfer â'r gelfyddyd anodd o'i

  1. Owen's Pembrokeshire, III, 37.
  2. C. A. Skeel: The Council in the Marches of Wales.