dref neu'r plwyf. Y mae eto yng Nghymru lawer hen fferm a'i thir beth yma a pheth acw, a cheir mynych gyfeiriad at y nodwedd hon mewn hen weithredoedd tir.[1]
Yn y flwyddyn 1390 gwnaed ymchwiliad i eiddo Dafydd o'r Hendwr yn Edeirnion. Yr oedd Dafydd yn arglwydd ar hanner manor yr Hendwr a chanddo denantiaid dano, ond sylwer fel yr oedd ei dir ef yn gymysg â thiroedd eraill 24 o gyfeiriau o dir âr ac wyth cyfar o weirdir o fewn y Faerdref uchaf dyma'r tir bwrdd, y mae'n debyg; un gafael o dir o fewn y Faerdref uchaf; pedwar gafael o dir yn yr un dref a ddelid gan ei denantiaid; gafael a hanner yn yr un dref o dir gŵydd; hanner un ffridd, a elwir Gwernyniog—cyfar o dir gwyllt a dau o dir gŵydd; un tŷ ym Mhentre Felin; 1½ gafael o dir gŵydd yn nhref Llandrillo; un gafael yn nhref Dinan; 4 gafael o dir gwydd yn nhref Franas; 3½ gafael yn nhref Dyfos; 5 yn nhref Gwnodl; 5 cyfar o dir gŵydd yn Ninan a Gwnodl; hanner un gafael, pedwerydd rhan un arall, a chweched rhan un arall o dir rhydd yn nhref Garthiaen, ac un gafael a hanner a nawfed rhan gafael o dir rhydd yn nhref Pennant. Lled wasgarog, fel y gwelir, oedd ystad Dafydd: yr oedd ganddo ryw gyfran ym mhob tref ddegwm yn y plwyf.[2]
Yn y Coleman Deeds ceir amryw ddisgrifiadau o dir âr yn gymysg a thir pobl eraill. Er enghraifft, mewn gweithred ddyddiedig yr unfed ar bymtheg o Awst, 1597, ceir y manylion a ganlyn am ystad neilltuol yn Llansantffraid ym Mechain:
(1) Yr erw uwchlaw'r ffordd (2 acr). Ymestyn rhwng tir John Owen Vaughan, Ysw., a'r briffordd.
(2) 5 seliones o dir ynghanol y Glebe (enw ar erwau mewn gweithredoedd Lladin yw selion).
(3) Yr erw hir (2 acr). Cyrhaedda o dir Dafydd ap Llowarch i dir Wiliam ap Lewis.
(4) 3 Seliones rhwng y Glebe a thir Howell ab Edward.
(5) 2 Seliones rhwng y Glebe a thir John Owen Vaughan.
Nid rhaid i'r cyfarwydd ond ceisio olrhain tir yr eglwys mewn unrhyw blwyf bron na wêl olion yr hen gyfundrefn dir.[3]