Er enghraifft, yn agos i eglwys Llanynys yn Nyffryn Clwyd y mae dau gae, y naill wedi ei rannu yn chwe rhan a'r llall yn naw rhan, a phob rhan yn cael ei ddal ar wahân.[1]
Ni bu'r tir tro, fodd bynnag, erioed mor bwysig yng Nghymru ag yn Lloegr, ac nid ar fara'n unig y byddai'r Cymry gynt yn byw. Yr oedd rhan helaeth o'r tir yn dir gwair. Nid wrth yr erw y mesurid y tir hwn—mesur tir âr oedd yr erw—ond yn hytrach wrth yr amser a gymerid i dorri'r gwair arno. Ceir enghreifftiau mynych o ddefnyddio'r termau gwaith gŵr, gwaith deuwr, etc., fel enwau ar ddolydd gwair. Yr oedd dolydd da yn brin iawn, a bron yn ddieithriad telid uwch rhent amdanynt nag am y tir âr. Yn Ystrad Owen, yn Arglwyddiaeth Dinbych, 8d. yr acr oedd rhent y tir âr, a'r gweirgloddiau yn 1/6.[2] Ym Mhowys ceir enghraifft o 100 erw o dir âr a dim ond 10/2 o rent arnynt—ychydig dros 1d. yr erw—a'r rhent ar y weirglodd yn 8d. yr acr.[3]
Heblaw'r tir âr a'r tir gwair, yr oedd hefyd dir gwyllt[4]—tir gŵydd neu'r borfa gyffredin, fel y gelwid ef weithiau. Yr oedd rhan helaeth o'r tir ym mhob cymwd yn anial neu dan goed, ac yr oedd cael tir o'r fath o bwys neilltuol i fywyd y cymwd. Yma y porai'r anifeiliaid ym misoedd yr haf pan dyfai ŷd a gwair mewn maes a gweirglodd. Yma y pesgid y moch ar fês a chnau'r ffawydd; troid hwy i'r coedydd yn niwedd Awst—tuag adeg gŵyl Ieuan y Moch—a gadewid hwy yno hyd ganol Ionawr. Yma y codid mawn a chasglu tanwydd yn nechrau'r haf ac y cymynid coed i adeiladu'r tai a'r beudai, ac i wneud dodrefn a llestri ac offer. Yma hefyd y llochesai'r anifeiliaid gwylltion—yr hydd, a'r afr, a'r ysgyfarnog—y dibynnid cymaint arnynt fel moddion cynhaliaeth. Dengys yr ysgrif y cyfeiriwyd ati eisoes[5] fod cyfar o dir gwyllt a dau gyfar o dir gŵydd yn werth 2/4 yn y flwyddyn, pan nad oedd
- ↑ Report of Ancient Monuments Commission, Denbighshire, 581a.
- ↑ Survey of Denbigh, 2 and 3.
- ↑ Montgomeryshire Collections, I: Documents illustrative of the History of the Princes of Upper Powys, p. 157.
- ↑ Pedair cyfar cyfreithlon ym mhob tyddyn ac un ar bymtheg ym mhob rhandir. Ancient Laws, Gwynedd, I, 186. At y tir ar y cyfeiria hyn yn unig. Rhydd Cyfreithiau Dyfed a Gwent i ni lawnach darlun o'r Rhandir cyflawn.Deuddeng erw a thrichant a vydd yn y rhandir cyfreithiol megis y caiff y perchen o'r tri chant (dir) aredig a phorfa a chynnud a lle i adeiladu ar y deuddegerw.—Ancient Laws, Dyfed, I, 536.Deuddeng erw a thri chant a fydd yn y rhandir rhwng rhydd a dyrys a choed a maes a gwlyb a sych, eithr godref a geiff y gwrthdir yn rhagor (... but a supernumerary trev the upland has in addition).—Ancient Laws, Gwent, I, 769.
- ↑ Gwaith Gwallter Mechain, II, 333—