24 cyfar o dir âr ac wyth cyfar o dir gwair yn werth, mewn arian, ond 13/4, ond bod y gwasanaeth arferol i'w roddi ar ben hynny. Ni'n synnir, fodd bynnag, gan y pris a roddid ar y tir gwyllt, oherwydd yr oedd tir o'r fath yn hollol anhepgor.
Yn ôl trefniant Hywel,[1] ceuid y tir âr a'r tir gwair i mewn, yr olaf ar yr ail ar bymtheg o Fawrth, a pharhai yn gaeedig hyd y Galan gaeaf, pryd y tynnid i lawr y ceuwydd a blethasid yn wrych dros dro. Gwneid gwrych y gadlas o gangau gwydd wedi eu plethu yn driphlyg—gyda llidiart wedi ei heilio o'r un defnydd—a thebyg yw mai â'r un peth y gwneid gwrychoedd tir y cnydau. Yn wir, â gwrych o'r fath yr amgylchid rhai o drefydd yr oesau canol.[2]
Ni wyddom gymaint ag a garem am ansawdd amaethyddiaeth y cyfnod. Ceir cyfeiriadau gan Gerallt[3] at y cnydau a godid; ychydig o wenith a godid yn unman yng Nghymru ond codid cryn lawer o geirch. Sonnir yn y cyfreithiau am wenith, haidd, ceirch, gwair, bresych, llin, a chenin, ac am berllannau a gerddi (er y dywed Gerallt nad oedd rai yn ei ddydd ef). Yn y gwanwyn y byddid yn aredig ar gyfer ceirch ac yn y gaeaf ar gyfer gwenith. Awgryma'r term "mancorn," a geir yn lled gyffredin, y tyfid rhyg hefyd. Cadarnheir hyn yn bendant gan ysgrifenwyr fel Leland, a ymwelodd â Chymru yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ond nid oes sôn am ryg yn Llyfr Du Tyddewi. Dywed George Owen mai'r arfer ym Mhenfro fyddai codi ceirch am saith neu wyth mlynedd ar yr un maes ac yna ei adael yn borfa am gyfnod cyffelyb er y gellid yn hawdd ddefnyddio'r tir at godi gwenith neu ryg.[4] Yn ôl yr Extent of Anglesey (1294), tyfid yno ffa a phys yn ogystal a rhyg, gwenith, ceirch a haidd. [5]
- ↑ Ancient Laws, I, 328.
- ↑ "During Henry III's stay at Hereford, Sept. 24, 1223, he directed Brian de Lisle to let the citizens of Hereford have materials for a hedge and stakes of thorns and maple and underwood in his forest of Trivel and Haye of Hereford to enclose city where it was not enclosed."—Arch. Cam., 4th series, XII, 137. Cymharer Hay, ym Mrycheiniog. Y Gelli Gandryll yw ei hen enw Cymreig. "La Haie Taillée" yn y Ffrangeg.
- ↑ Giraldus Cambrensis: Description of Wales, 166.
- ↑ George Owen: op. cit., I, 59—60.
- ↑ Seebohm Tribal System in Wales, Appendix A, 24."Frumenta ordea fabas et pisa ac siligines"—gwenith, haidd, ffa, a phys a rhyg. Mewn Lladin clasurol golygai siligo wenith gaeaf neu wenith gwyn, ond yn Lladin yr oesau canol golygai ryg, a golygai frumentum wenith. Mewn Lladin clasurol, ystyr frumentum oedd yd. Gweler Ashley: The Bread of our Forefathers, Chapter III.