Ar y gorau, gwael oedd y cynnyrch. Ar brif faenorydd Lloegr, ni cheid ar gyfartaledd fwy na rhyw 9.36 bwysel o wenith, 14.32 o haidd, a 10.56 o geirch oddi ar bob acr.[1] Cyfrifir y ceir heddiw ar gyfartaledd gymaint deirgwaith a throsodd o wenith, gymaint ddwywaith a hanner bron o haidd, a bron gymaint bedair gwaith o geirch. Yn ôl ystadegau Llyfr Du Tyddewi, heuid o saith i naw bwysel o geirch ar bob erw, pedwar i wyth o haidd a dau i bedwar o wenith, a disgwylid cael cymaint deirgwaith o gynnyrch, ond ni ddigwyddai hynny bob amser. Codid amryw fathau o wenith a cheirch—gwenith bras (cwrs), gwenith coliog a gwenith ysgafn, a cheirch mawr a cheirch ysgafn. Heuid y gwenith cwrs yn yr Hydref a'r ysgafn yn y Gwanwyn.[2]

Dichon fod prisiau yn dangos yn eglurach na dim arall faint o werth a roddid ar wahanol bethau yn yr oesau canol. Yr oedd ceffyl gwedd yn werth 5/- pan fyddai ar ei orau yn dair oed[3] (8/- yn Nyfed), ond yr oedd ceffyl cario (negyn) yn werth 10/- —awgrym o'r pwysigrwydd o gael march hoenus i hela ac i ryfela pan fyddai angen, ac yn anad dim i gario pynnau ar hyd y ffyrdd anhygyrch. Yr oedd buwch yn werth 5/- pan fwriai ei phumed llo, ond collai yn raddol yn ei gwerth ar ôl hynny. Ieuid yr ychen yn dair oed, pryd y byddent yn werth 5/-, a'u lladd yn chwech oed. Yr oedd defaid a geifr yn werth rhwng ceiniog a phedair ceiniog yr un, a mochyn rhwng ceiniog a 2/6. Yr oedd ci bugail yn werth cymaint ag