Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Perthynai i Gimmerch tua 9,000 o acrau o dir cyffredin,— 3,000 yn nwylo'r uchelwyr a 6,000 yn nwylo'r taeogion; ond erbyn 1334 yr oedd Lacy wedi llwyddo i gael 4,700 i'w ddwylo ei hun, a gadael 1,730 i'r uchelwyr, a 2,800 i'r taeogion. Yn Isdulas, yr oedd gynt 9,900 o acrau ym meddiant uchelwyr a 3,200 yn nwylo taeogion, ond erbyn 1334 yr oedd 4,900 ohonynt yn nwylo'r arglwydd.[1]

Dengys astudiaeth o'r gyfundrefn amaethyddol y modd yr ymwthiodd y gyfundrefn Seisnig i mewn i ddyffryn Clwyd. Un nodwedd amlwg ar y gyfundrefn honno yn Lloegr oedd y rhennid y tir yn dair adran, dwy ohonynt dan gnwd bob blwyddyn, a'r llall yn segur a'i thrin fel braenar haf. Fel rheol, heuid gwenith yn yr hydref, yna haidd neu geirch yn y gwanwyn ar ôl medi'r gwenith, a gadael y tir yn fraenar y drydedd flwyddyn. Cymerid yr holl gaeau yn eu tro, a rhoddid gorffwys iddynt un flwyddyn o bob tair. Yn Ninorben ceir y tir àr wedi ei rannu yn dair adran, 67 acr yn un, 64 yn yr ail a 60 yn y drydedd. Yng Nghilffwrn, ceir 69, 71 a 101 acr, ond yn Ystrad Canon, ymddengys mai dau gae oedd y rhaniad.[2] Digwyddai felly ar y Manor Seisnig weithiau, a bu dadl ymysg amaethwyr y cyfnod parthed rhagoriaeth y naill ddull ar y llall. Yr oedd yng Nghilffwrn hefyd gae a elwid y cae gwenith (Whitfield), a oedd, fe ddichon, yn barhad o'r hen gyfundrefn Gymreig. Yr arfer Gymreig, y mae'n debyg, ydoedd aredig un cae flwyddyn ar ôl blwyddyn nes pallai ei ffrwyth, ac yna gymryd rhan arall o'r tir diffaith a'i drin yn yr un modd. Y mae yn llyfr George Owen ar sir Benfro gyfeiriadau at gyfundrefn amaethu yn y sir honno, ond nid yw'n eglur ai'r gyfundrefn un cae oedd honno ai peidio.

Gadawyd yr hen gyfundrefn Gymreig yn llonydd yn yr adrannau hynny lle na ellid dwyn i mewn arferion Seisnig. Yr oedd cryn wahaniaeth yn hyn o beth rhwng Cimmerch, a oedd yn agored i ddylanwadau Seisnig, ac Is neu Uwch Dulas. Cymerwyd mantais ar yr hen arfer Gymreig i godi yr hyn a hawliai'r arglwydd oddi ar ei denantiaid, a cheir profion ddigon o gyndynrwydd yr hen gyfundrefn. Hawlid y bunt dwnc yn lle'r hen westfa Gymreig o hyd oddi ar denantiaid caeth a rhydd fel ei gilydd, gydag ychydig iawn o eithriadau. Hawlid rhent arall—y Pastus—yn lle'r dofraeth; yr oedd hon, fel rheol, yn swllt y Nadolig a 6d. ar ben pob un o'r pedwar

  1. Ibid., XLI a CV.
  2. Ibid., 230, 2, 4. 112