tymor. Telid rhent fwyd gan y taeogion yn lle'r dawn bwyd gynt. Byddai hefyd alw arnynt i weithio, yn enwedig yn yr Hydref, neu dalu swm penodedig yn lle hynny. Wyth a deugain oedd rhif taeogion Is Aled, a thalent 18/- yn lle gwaith yr Hydref. Yn Uwch Dulas talai 44 ohonynt 13/10 yn lle III o ddyddiau gwaith a oedd yn orfodol arnynt. Talent hefyd dreth Fforest ac ebediw ac amobr fel cynt.[1]
Cyffelyb oedd y datblygiad a fu yn neheudir Cymru.[2] Ceid y Fanor Seisnig a chastell yn ganolbwynt iddi—castell a berthynai fel rheol i un o arglwyddi'r cyffindir—ac yno y gwelid y gyfundrefn Normanaidd yn ei rhwysg. Saeson oedd nifer o'r tenantiaid, ac yr oedd rhai yn wŷr rhydd—ni ddeuent i Gymru heb gael mwy o ryddid nag a gaent ar fanorydd Lloegr. Ar y cyrrau, yn y mynyddoedd, yr arhosodd y gyfundrefn Gymreig, er bod ychydig newid wedi bod arni i ateb amcanion y Norman, fel y gwnaed yn Nyffryn Clwyd. Rhennid y manor, felly, yn ddwy adran—yr adran Seisnig yng nghymdogaeth y castell a'r llys, a'r adran Gymreig yn yr ucheldiroedd. Er enghraifft, yn arglwyddiaeth Croesoswallt ffurfiai'r trefydd degwm yn y pen Cymreig y rhan fwyaf mynyddig o'r arglwyddiaeth—adran ar ei phen ei hun. Cai trigolion yr adran honno y fraint o fynd â'u da i dref Groesoswallt i'w gwerthu ar ddyddiau'r pedair ffair blynyddol. Ceiniog am bob ffair oedd yr unig dâl a godid arnynt, ac am y rheswm hwn fe'u hadwaenid yn y dref fel y bwrdeis grot. Fel rheol, fe gyfeirir at y naill adran fel yr Englishry a'r llall fel y Welshry.[3]
Dengys yr Anglesey Extent, 1294, i'r un peth ddigwydd ym Môn. Ceir rhestr hir o drefydd (villa)—neu bentrefydd, ys dywedwn ni heddiw—fel Pentraeth a Mathafarn Eithaf, yng nghymwd Tindaethwy, bob un yn talu rhent penodol yn ogystal â swm arbennig yn lle'r westfa gynt. Nid oes sôn am wasanaeth llys ond mewn pedair o'r trefydd hyn yn unig, ac y mae'n deg casglu bod mwyafrif mawr tenantiaid Tindaethwy yn cynrychioli'r hen uchelwyr Cymreig ac yn cael edrych arnynt fel tenantiaid rhydd. Cyffelyb oedd safle pethau yn Nhalybolion, ond yma ceir rhai cyfeiriadau pendant at y ffaith eu bod yn denantiaid rhydd—yn nhref Llywarch, er enghraifft.