Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dro arall, gwahaniaethir rhwng y caeth a'r rhydd yn yr un dref, fel yng Nghemlyn, lle y dywedir bod tenantiaid rhydd yn talu 19/11, a'r taeogion yn darparu lluniaeth—dawn bwyd y cyfreithiau yn ogystal a rhoi gwasanaeth, y cwbl gyda'i gilydd yn werth 33/8. Dyma'r gyfundrefn Gymreig fel yr oedd yn ymarferol yn nyddiau Hywel. Ceir hefyd fanylion parthed nifer o fanorydd yn Llanfaes, Aberffraw, Cemaes, Penrhos a Rhosfair. Fel y dengys Lloyd (History of Wales, 231—2), dyma brif leoedd y cymydau, ac nid afresymol tybied. mai'r hyn a wnaeth Edward oedd troi yr hen faerdrefi yn fanorydd fel y gwnaed mewn lleoedd eraill yng Nghymru.

Ni ellid cael manor mwy cryno na Manor Cemaes, fel y disgrifir hi yn y Stent, a gellid dangos mor debyg oedd i ddwsinau o fanorydd Normanaidd Lloegr. Dyma'r manylion a roddir amdani yn y Stent:

Dominicums[1]
(Maerdref)
4 Carucate[2] o dir âr, 30/- y carucate £6
4 Gweirglodd £1
Gardd 40d
Molendinum Melin a falai 80 crannog[3] o flawd ceirch am 2/- y crannog £8
Piscaria Pysgodle 3/4
Liberi tenentes Rhent tenantiaid rhydd £5 6 11
Customarii Llafur a gwasanaeth taeogion £13 14 0
Curiae Achosion y Llys £2 0 0
Cyfanswm £36 7 7

Rhed y disgrifiad uchod ar linellau'r ymholiadau fel y rhowd hwy i lawr gan Fleta ac fel y defnyddid hwy yn yr Extenta Manerii pan wnaed yr Hundred Rolls yn Lloegr.

Yn yr hanes am Aberffraw a Phenrhos, ceir manylion pellach am natur y gwasanaeth gorfodol na cheir ond crybwylliad amdano yn unig yn yr hanes am Gemaes. Disgwylid i'r pymtheg taeog a oedd yn byw ar Fanor Aberffraw, hynny yw, yn y faerdref, roddi. tri chant o ddyddiau gwasanaeth, sef ugain niwrnod yr un, yn nhymor y cynhaeaf. Yr oedd

  1. Dyma'r termau a ddefnyddir yn yr "Extenta Manerii," nad oes sicrwydd am ei dyddiad.
  2. Carucate: Darn mesuredig o dir a ddefnyddid yn safon trethiant gan y Normaniaid. Tybir y golygai y nifer o erwau y medrai gwedd o ychen (8) eu haredig mewn blwyddyn. Cyfetyb i'r "hide," a fesurai ar gyfartaledd tua 120 o acrau. Ceír nodyn yn Llyfr Du Tyddewi yn dywedyd mai 80 acr oedd y carucate yno, ac mae'n bosibl mai dyna faint un Môn hefyd.
  3. Crannog: Mesur ŷd Cymreig=4 bwsiel.