Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

taeogion y cantref, a drigai y tu allan i'r faerdref, i roddi pedwar ugain niwrnod o waith. Disgwylid i'r taeogion roddi trigain niwrnod hefyd i lyfnu, a dyfod â'u ceffylau gyda hwy. Ym Mhenrhos, disgwylid i bob taeog weithio wyth niwrnod o bob un o'r tri mis yn nhymor cynhaeaf. Cyfrifid bod llafur taeog am ddiwrnod yn werth Ic. Yr oedd yno hefyd dri ar ddeg o cotellari (bythynwyr), a roddai wasanaeth am dridiau yn yr hydref. Ychydig o dir, o'i gymharu â'r taeog cyffredin, oedd gan y cotellarius. Yr oedd y taeogion hefyd i ofalu am ugain o geffylau[1] i lyfnu yn y gaeaf, ond nid oedd raid iddynt fyned at y gwaith hwnnw eu hunain. Yn y gwanwyn, ar y llaw arall, yr oedd raid iddynt anfon ceffylau a dynion i weithio. Yng nghymwd Menai, disgwylid iddynt lyfnu a theilo, a medi'r ŷd a'i gario, a hefyd gasglu tanwydd i'r arglwydd.[2] Ni ymddiriedid gwaith hau[3] i'r taeogion, a gwneid y gwaith hwnnw gan y maer, neu'r beili, fel y galwai'r Saeson ef.

Melin Wynt

Ceir manylion tebyg am diriogaethau Esgob Tyddewi yn y Llyfr Du. Yn adrannau mwyaf anghysbell yr esgobaeth, megis Llanddewibrefi, Blaenpennal, Nantcwnlle a mannau eraill, fe barhaodd yr hen gyfundrefn Gymreig heb ryw lawer o newid arni. Er y sonnir am Landdewibrefi fel bwrdeisdref, nid oedd mewn gwirionedd namyn pentref manoraidd cyffredin.

  1. ↑ Y peth a olygir yw ugain o ddyddiau gwaith ceffyl, a buasai dau geffyl am ddeng niwrnod yn ateb y diben. Gallai'r taeogion drefnu gyda'r maer pa nifer o geffylau i'w hanfon.
  2. ↑ Extent of Anglesey, 1294
  3. ↑ Ceir cyfeiriad at yr heuwr yn Stent Dinbych, ac y mae'n amlwg ei fod yn fath o swyddog. Survey of Denbigh, p. 3.