Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ystyr gyfyngach y pryd hwnnw nag y sydd iddo heddiw. Cyfeiria'r gair, "adail," at blethiad y gwydd a ddefnyddid i wneud muriau plas a bwthyn fel ei gilydd. Plethid y cangau drwy ei gilydd a'u rhoi i sefyll mewn ffram, yn union fel y plethir gwrych ac y gosodir polion[1] i'w ddal yn ei le. Yna dwbid clai neu laid—ac yn ddiweddarach forter—i lenwi'r gwagle rhwng y plethiadau. Gwelir olion y dull hwn o adeiladu mewn cannoedd o leoedd yng Nghymru, yn enwedig ar y gororau, lle y ceir y tŷ "du a gwyn." Ffram dderw ddu sydd i dai o'r fath a phlastr gwyn yn orchudd dros yr hen blethiad yn y canol.

Yr oedd adeilad o'r fath yn fwy o luest nag o dŷ, ac awgryma'r modd diseremoni yr adeiledid ef nad oedd namyn caban unnos a godid rhwng cyfnos a gwawr. Nid oes sicrwydd ychwaith nad oedd y tŷ unwaith yn adeilad symudol, ac y cerid y "bangorau" neu'r clwydi o fan i fan fel y byddai angen. Y mae'r ffaith bod gan y rhan fwyaf o'r uchelwyr ddau neu dri chartref yn profi nad oeddynt eto yn hollol sefydlog. Yr oedd ganddynt dŷ gaeaf a chynhaeafdy yn ogystal a'r hafdy. Adeiledid y cyntaf, fel rheol, mewn man cyfleus yn un o geseiliau'r dyffryn. Dyma'r Hendre[2] a ddaeth, o dipyn i beth, oherwydd ei chadernid a'i chlydwch, i gael ei hystyried fel y cartref. Yng Ngwent yr oedd nenbren y tŷ gaeaf yn werth 30 ceiniog,[3] pryd nad oedd y cwbl o'r tŷ hydref yn werth ond 24 ceiniog, a'r hafdy ond 12 ceiniog. Yr oedd y tŷ hydref wedi ei forteisio awgrym, fe ddichon, y symudid ef o le i le—ac adeiledid yr hafdy ar yr un cynllun, ond yn llawer ysgafnach. Yr oedd gaeafdy'r brenin yn Nyfed yn werth punt, y cynhaeafdy ddeg swllt, a'r hafdy 40 ceiniog, ond os heb ei forteisio 12 ceiniog, yr hyn hefyd oedd ei bris yn ôl cyfraith Gwent. Ar y llaw arall, ceiniog cyfreithlon oedd gwerth hafdy Gwynedd.

Ni bu ond ychydig newid ar rai o'r hen hafotai hyn, ac o graffu ar y murddunod, cawn gipolwg ar rai o ddulliau ac arferion ein hynafiaid gynt.[4] Fel y dywed Jordanes, trigai'r

  1. Ceir son yng nghyfreithiau Dyfed am y polion a'r gwiail hyn. Gweler y dyfyniad ar ddechrau'r bennod.
  2. Ceir y gair Hendref yn y cyfreithiau. Gweler Ancient Laws, I, 437, 779.
  3. Ancient Laws, I, 720.
  4. Ar gadw hafod yn y ddeunawfed ganrif gweler Pennant's Tours, Vol. II, 334—5. Ceir disgrifiad byw o fywyd yr hafod yn nechrau'r ganrif ddiwethaf yn hunangofiant Ap Vychan.