arall fod caniatâd i'r tenantiaid dorri coed—hynny yw, gwiail at adeiladu tai—a'u bod i ddwbio clai ar dai yr arglwydd pan fyddai gofyn am hynny—arwydd sicr bod yr hen drefn o adeiladu tai ar arfer yn 1326. Cymharer â'r hyn a ddywed cyfreithiau Hywel "Tri anhepgor bwth havodwr, nenbren, nenffyrch a bangor[1] a rhydd iddo eu torri yng nghoed gwyllt a fynno (Ancient Laws, II, 562). Eu dyletswydd hwy fel tenantiaid hefyd oedd toi'r tai hyn â brwyn neu ryw ddefnydd arall y medrent gael gafael arno.
Erbyn hyn dechreuasid adeiladu tai hefyd â cherrig. Yr oedd y tai cerrig a berthynai i'w Ras yn nhref Lamphey yn werth £5 yn y flwyddyn, a'r adeiladau cerrig o'r tu allan i'r muriau yn werth 10/— Dywedir mewn lle arall ei bod yn orfod ar y tenantiaid adeiladu tai i'r Esgob yn ôl yr hen drefn; yr oedd raid iddynt gludo'r coed ar eu cost eu hunain ac adeiladu'r tai a'u toi; ond os byddai ar yr Esgob eisiau codi tai cerrig yn Abergwili neu Landeilo neu Langadog, efô a fyddai i dalu cost cludo'r defnyddiau.[2] Yr oedd gorfod ar denantiaid Llanddewi a Llanbedr Pont Stephan i gludo coed o fforest Atpar i Fanor Llandogy i adeiladu yno neuadd, ystafell wely, cegin, ystabl ac ysgubor i'r arglwydd ar eu cost eu hunain.[3]
Ceir tystiolaeth gyffelyb ynglŷn ag arglwyddiaeth Dinbych, lle gorfyddid ar denantiaid Rhufoniog Isaled i adeiladu neuadd i'r arglwydd, gydag ystafell wely a camera privata yn gysylltiedig â hi; hefyd, gapel a phopty a thŷ golchi;[4] ac ychwanegir y byddid yn arfer â gwneud hyn yn amser tywysogion Cymru.[5]
Yn y castell, fodd bynnag, y ceir y datblygiad amlycaf, gyda'i gegin, pantri, bwtri, seler, bragdy, popty, a nifer o ystafelloedd arbennig i wahanol bersonau; ond yma, wrth gwrs, yr oedd popeth yn ddarostyngedig i bwrpas rhyfel, ac o ganlyniad ychydig o gysur a geid ynddo. Ar y llaw arall,
- ↑ Bangor. Fel enw cyffredin ystyr y gair bangor yw y wialen uchaf sydd yn clymu y glwyd blethedig wrth ei gilydd. Ac yn naturiol ddigon daeth i gael ei ddefnyddio am y glwyd ei hun. Nid oes sicrwydd a oes unrhyw berthynas cydrhyngddo a Bangor fel enw ar le. Awgryma rhai i'r enw gael ei roi ar le am fod yr eglwysi cyntefig wedi eu gwneud o "fangorau." Ond nid oes eglwys ym mhobman lle y ceir yr enw Bangor.
- ↑ Ibid., 255.
- ↑ Ibid., 213. "And they ought to carry the heavy materials for the five buildings which cannot be carried by one horse from the forest of Atpar to Landogy, namely for the Hall, the Lord's room, the kitchen, stable and grange"—dyma odai y cyfreithiau.
- ↑ Survey of Denbigh, 149.
- ↑ Cadarnheir hyn gan y cyfreithiau. "Naw tŷ y dylai mileiniaid y brenin eu gwneuthur iddo; neuadd, ystafell, bwyty, ystabl, cynordy (i'r cŵn), ysgubor, odyn, tŷ bach a hundy."—Ancient Laws, 1, 78.