tyfu ar lawr y dyffryn rhwng afon Elwy a'r môr.[1] Ar y llaw arall, yng nghymdogaeth Rhuthyn yn uwch i fyny dyffryn Clwyd gwysir gŵr o'r enw Ap Meredith o flaen Cwrt Rhuthyn am ddwyn gwenith a rhyg o ysgubor yn y dref.[2] A gwenith y talai tenantiaid Maelor Gymraeg eu rhenti yn 1508, ag eithrio Merffordd lle ceir rhenti ceirch.[3] Ym Mhowys yn 1309 sonnir am ograid o wenith neu flawd fel rhent, ac weithiau am fwsiel o geirch yn yr un modd.[4] Yn Llyfr Du Tyddewi ceir manylion am y cnydau a godid ar faenorydd yr Esgobaeth, a cheir aml gyfeiriad at ryg yn eu mysg, ac fe wahaniaethir yn fanwl rhwng y gwahanol fathau o wenith a godid.[5] Ym Môn (1294) sonnir am wenith, ceirch a haidd, yn ogystal â rhyg.[6]
Fel y sylwyd eisoes, sonnir yn y Mabinogion am fara haidd, bara gwyn a bara coesed. Bara gwynnach na'r cyffredin oedd bara coesed. Yn neddfwriaeth Lloegr cydnabyddid gwahaniaethau yn ansawdd y bara wrth benderfynu'r prisiau. Sonnir am bedwar math o fara: Wastell—bara gwyn cyffredin— hwn oedd y safon y penderfynid gwerth y llei wrtho; Simnel—bara gwyn o ansawdd gwell (bara coesed?): Coket— bara cymysg o wenith a rhyg; Treit—bara du.[7] Cresid pedwar math o fara ym Mynachlog Caerwrangon—bara gwyn i'r myneich, bara i'w rannu i'r tlodion, bara'r gwasanaethydd— ion, a bara'r gradell.[8]
Dengys cyfrifon yr Ysbytywyr eu bod hwy yn byw, yn bennaf, ar fara gwyn. Yn y flwyddyn 1338, defnyddiwyd yn Halston (Croesoswallt) a Dolgynwal (sef Ysbyty Ifan) gymaint â 70 chwarter o wenith, 2/6 y chwarter, a 30 chwarter o ryg, 2/— y chwarter, i wneud y bara a alwent hwy yn fara teuluaidd.[9] Ni wyddys pwy a gai'r bara gwyn a phwy y bara du, ond os dilynent arfer tai cyffelyb mewn rhannau eraill o'r wlad, defnyddid y bara du i'w roi yn elusen i'r sawl a ddeuai yno yn eu tro. Cwynai'r ysbytywyr oherwydd nifer eu gwesteion, ond nid yr un croeso a gâi pawb.
- ↑ The Survey of Denbigh, 307, 312, etc.
- ↑ Ruthin Court Rolls, 8.
- ↑ Palmer: A History of Ancient Tenures of Land in North Wales and the Marches, Appendix. Ond yn yr Extent of Bromfield and Yale, a olygwyd gan T. P. Ellis, sonnir am wenith, rhyg a cheirch.
- ↑ Montgomeryshire Collections, Vol. I.
- ↑ Llyfr Du Tyddewi. Introduction, Ixxvii, 74, 108, 120, etc
- ↑ Seebohm: Tribal System in Wales, Appendix Aa.
- ↑ The Register of Worcester Priory (Camden Society), ci.
- ↑ Ibid.,
- ↑ Wrth fara teuluaidd golygid, fel rheol, y bara du a gâi'r gweision. Gweler Knights' Hospitallers in England, Camden Series (1857), 35—40.