Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

11 o eifr, 1 mochyn, 2 lo, a 19 o wyddau. Ar yr achlysur hwn yr oedd y pobydd wedi crasu dau bwn o flawd, ac yr oedd bob amser gyflawnder o win—coch a gwyn—a chwrw at alwad.[1]

Ceir tystiolaeth gan Gerallt am y gloddesta ymhlith y myneich. Un tro, pan oedd ar ei ffordd adref o'r cyfandir, cafodd ei wahodd i giniawa gyda'r myneich ym mynachlog Caergaint. Sonia am y chwe chwrs, a dywed y dygid llysiau i'r bwrdd er mwyn cadw llythyren cyfraith Bernard Sant, er na fwytâi neb ohonynt. Sonia hefyd am y diodydd a'r gwinoedd. Rhoent y cwrw yn yr un dosbarth a'r llysiau, fel rhywbeth islaw sylw'r mynach, a thebyg, fel y gwyddys, yw tystiolaeth y cywyddau.

Er a ddywed Gerallt am aflerwch y bywyd Cymreig, y mae'r rhestr faith o ddodrefn a chelfi tŷ a geir yng nghyfreithiau Hywel—lawer ohonynt, fe ddichon, yn ddigon anhylaw—yn dangos datblygiad uchel ymysg y Cymry yn y grefft anodd o hel cartref at ei gilydd, pan nad oedd gwawr yr oesau canol ond prin wedi torri ar eu hanes. Dyma rai o'r pethau a enwir: crochanau, piseri, poteli lledr, cwpanau, cradelli, dysglau, gograu, meginau, cerrig melin law, cist, ystol, setl, mit, buddai, gobennydd, cynfas, clustogau, etc., ac y mae'r offer bron yn ddihysbydd trwmbel, aradr, ôg, cwlltwr, berwa, bangorau, einion, megin gof, slêd, morthwylion, cistiau, cerrig hogi, gwelleifiau, crymanau, rhawiau, rhidyll, ffust, etc.

Ni cheir llawer o wybodaeth gan Gerallt am y gwisgoedd, ag eithrio'r wisg filwrol. Y mae'r Mabinogion, ar y llaw arall, yn llawn o gyfeiriadau at wisgoedd gorwych y cyfnod. Yr oedd y dynion a'r merched yn hoff o ymwisgo mewn lliwiau tanbaid. Ar y cyntaf, dichon mai lled lwydaidd oedd y wisg. Pan oedd Pwyll Pendefig Dyfed yn hela yng Nglyn Cuch, fe gyfarfu â heliwr arall mewn gwisg o frethyn cartref, ond wedi iddo gyrraedd y llys fe'i gwisgwyd, fel y sylwyd eisoes, gan ddau farchog mewn gwisg o sidan ac aur. Yn unol â deddfau caeth sifalri'r cyfnod, fe benderfynai safle gymdeithasol y person beth fyddai natur ei wisg. Gwisgai'r dynion fath o gob isaf gyda chob arall ferrach drosti, a mantell neu glog dros honno, hosanau hirion neu weithiau lodrau am eu coesau ac esgidiau isel o groen neu o ledr am y traed.[2] Dywed Gerallt y byddent yn mynd yn droednoeth neu yn gwisgo esgidiau uchel o groen.

  1. Bishop Swinfield's Household Expenses, Camden Series, 1854, civ, a cxcvi; 1853, pages 3, 82 and 83.
  2. Gweler y Mabinogion, yn enwedig Iarlles y Ffynnon, Pwyll Pendefig Dyfed, a Breuddwyd Macsen Wledig.