Gwneid y dillad yn fynych o'r pali y mae cymaint sôn amdano, ond nid oes sicrwydd pa ddefnydd a olygid, ond yn unig ei fod o nodwedd sidanaidd. Yr hyn a'n synna fwyaf, fodd bynnag, yw eu cariad at liw. Yr oedd gwyrdd a melyn yn boblogaidd odiaeth, a goreurid y wisg os byddai'r person yn ŵr o radd. Du neu wyrdd fyddai'r llodrau, a'r hosanau yn felyn. Esgidiau o ledr, a hwnnw yn lliwiedig, oedd yn boblogaidd yng nghyfnod y Mabinogion.
Ymhlith y merched, yr oedd pali gwyn a melyn yn boblogaidd iawn. Gwisgid gorchudd dros y pen ac addurnid y talcen â thlysau o aur neu o feini gwerthfawr. Gwisgid math o gôt fer neu wasgod gyda chôt hir laes dros honno, ac am y traed gwisgid esgidiau lliw. Mewn breuddwyd gwelodd Macsen Wledig ferch yn eistedd mewn cadair ruddaur. Gwisg o sidan gwyn oedd amdani, gyda boglynnau aur ar ei bronnau; swrcot wedi ei gweu o aur drosti, ac ar ei thalcen, torch o ruddaur yn llawn o emau a pherlau a meini gwerthfawr. Am ei chanol yr oedd gwregys o aur melyngoch. Gallwn yn hawdd gytuno â'r awdur pan ddywed na welodd dyn erioed olygfa cyn dlysed.

1, Gwiail; 2, Derw.