bynnag yr âi. Yr oedd yr holl foroedd a'r afonydd yn rhydd, ond yr oedd rhaid i'r sawl a rwydai afon roddi dwy gyfran o dair o'r pysgod i berchennog y tir. Yr oedd y Cymry yn gryn feistriaid ar gelfyddyd rhwydo pysgod a maglu helwriaeth.[1]
Dichon y dengys cyfreithiau'r llys yn well na dim arall y lle amlwg oedd i hela ym mywyd y cyfnod. Ymhlith swyddogion y llys ceir y pen hebogydd yn bedwerydd ar y rhestr, a'r pen cynydd yn ddegfed.[2] Mewn adran arall, a adwaenir fel adran y Priodolion leoedd, dywedir bod y pen hebogydd i eistedd yn nesaf at yr "edlyg," sef yr etifedd, a'r pen cynydd yn nesaf at offeiriad y teulu. Ymysg swyddogion arferol y llys, hynny yw y swyddogion hynny a ddaliai swydd cyn yr ad-drefniad a wnaed, fe ddichon, gan Hywel, ceir cyfeiriad at y coedwr-neu'r cynnutwr-swydd, fel y cawn weld, a ddaeth i gryn amlygrwydd yn y cyfnod Normanaidd.[3]
Agorai'r tymor hela ar yr wythfed o Chwefror, pryd yr âi'r pen cynydd, gyda'i gwn a'i gyrn, i hela'r bychod. Parhai hyn hyd ŵyl Ieuan hanner haf. O hynny hyd y nawfed dydd o'r gaeaf helid ceirw o bob oed, ac yna hyd y cyntaf o Ragfyr helid y baedd gwyllt—moch coed.[4] Daliai'r pen cynydd ei dir fel gŵr rhydd. Câi ei geffyl a'i frethyn gan y brenin, a'i liain gan y frenhines. Hefyd, câi draean dirwy'r helwyr yn ogystal ag amobr eu merched. Cysgai yn yr odyn, a gofalai'r llys am dri chornaid o ddiod a dysglaid o gig iddo bob dydd.[5]
Tebyg yw'r manylion a geir am y pen hebogydd. Ystyrrid yntau hefyd yn ŵr rhydd a châi draean dirwy'r hebogyddion ac amobr eu merched. Yr oedd i gael croen hydd yn yr hydref a chroen ewig yn y gwanwyn i wneuthur menyg i gario'r hebog ar ei arddwrn. Cysgai ef yn yr ysgubor—yr oedd berygl i'r mwg yn y neuadd ddallu'r adar.[6]
Yn y Mabinogion, wrth gwrs, y ceir y syniad llawnaf am rwysg a rhamant y bywyd hwn, ond ni wneir yma ond cyfeirio yn unig at rai o'r disgrifiadau ysblennydd a geir yn britho'r chwedlau hynny, megis y disgrifiad o'r cŵn yn ystori Pwyll, o'r heliwr yn ystori Culhwch ac Olwen, ac o hela'r Baedd