ystyr fanwl y gair, ond yn unig yn gyfiawn yn ôl safon deddf y Fforest.[1]
Ceir deffiniad ychydig yn wahanol gan ysgrifenwyr fel Manwood a Coke. Yn ôl Manwood, [2] pedwar anhepgor Fforest oedd gwyrddgoed (vert), hyddgig (venison), deddfau arbennig a swyddogion arbennig i'w gweinyddu. Ceir rhestr hwy gan Coke—daear, lloches, cyfreithiau, llysoedd, barnwyr, swyddogion, helwriaeth a therfynau arbennig.[3]

Cynhwysai'r Fforest nid yn unig goedwigoedd a thir diffaith, ond hefyd dir âr a phentrefydd cyfain. Gallai'r tir fod yn eiddo rhywun arall ac eto fod yn rhan o Fforest y brenin. Ar y llaw arall, nid oedd tir y Goron yn Fforest o angenrheidrwydd, onid oedd hefyd wedi ei neilltuo i helwriaeth ac wedi ei roddi dan ddeddf arbennig y Fforest. Mewn Fforest o gryn faint byddai hefyd barciau—adrannau wedi eu cau i mewn er diogelwch sicrach i'r helwriaeth. Yr oedd y parciau dan weinyddiad yr un ddeddf a'r Fforestydd. Yr oedd pedwar anifail a ystyrid bron yn gysegredig gan y brenhinoedd Normanaidd,
13