sef y carw coch, yr hydd, yr ewig, a'r baedd gwyllt. Hwynt— hwy oedd bwystfilod helwriaeth (beasts of the chase), ac unig amcan deddf y Fforest oedd eu diogelu.
Ymddiriedid gweinyddiad deddf y Fforest i ddau brif Farnwr, a rhennid y wlad yn ddwy adran ag afon Trent yn derfyn rhyngddynt. Perthynai fforestydd Cymru i adran uwch Trent. Yn nesaf at y Barnwr ceid y Pen Fforestwr, a ofalai weithiau am fwy nag un Fforest. Dano yntau drachefn ceid y ciperiaid, a wyliai symudiadau'r herwhelwyr y coedwyr, a edrychai na niweidid y coed; agistatores, a ofalai am godi'r tâl priodol ar y sawl yr oedd ganddynt hawl i anfon anifeiliaid i bori yn y Fforest. Agistment oedd y tâl a godid am bori'r glaswellt. Dywed Llyfr Du Tyddewi fod gan yr Esgob fforest o 40 acr yn Atpar, a phe na buasai yn ei gosod allan i'w phori (agistamenta), y gallai gadw nifer arbennig o'i anifeiliaid ei hun yno.[1] Codid tâl arall, a adwaenid fel pannage (mesobr, tâl am fes), ar y moch a fwytâi'r mes a'r cibau.
Arferai swyddogion y Fforest gydgyfarfod yn yr hyn a adwaenid fel y Swainmote, lle gwneid trefniadau ynglŷn â'r helwriaeth ac y derbynnid tâl gan y sawl a anfonai anifeiliaid i bori ar y Fforest, ond nid oedd a fynnai â chyfraith y Fforest. Cynhelid y Llys Cyfraith bob chwech wythnos, ac yno y cosbid y sawl a dorrai gyfraith y Fforest. Cedwid y troseddwyr gwaethaf nes deuai'r barnwr heibio, a digwyddai hynny unwaith bob tair neu saith mlynedd, ac ambell dro ddim ond unwaith mewn pymtheng mlynedd. Y barnwr hefyd a roddai gosb ar swyddogion y Fforest pan fyddent yn anffyddlon i'w hymddiriedaeth.
Fel y gellid tybied, ystyrid deddf y Fforest yn un hynod greulon, a phan gofir bod oddeutu un rhan o dair o'r holl wlad o fewn terfynau fforestydd, hawdd deall mor orthrymus ydoedd. Rhennid y troseddau, fel rheol, yn ddau ddosbarth: (1) Trosedd yn erbyn y goedwig trwy dorri'r coed neu droi anifeiliaid i'r borfa, a (2) Trosedd yn erbyn yr anifeiliaid. Ystyrid torri pren yn gyfystyr â diffeithio'r goedwig, a chodid tâl ar y sawl a wnai hynny nes tyfai'r pren eilwaith i'w faintioli cyntefig. Pan ddadwreiddid y coed a thrin y tir, codid tâl am bob cnwd a geid ar y tir hwnnw. Adwaenid hyn fel assart (dadwreiddio), ac fel hyn, yn wir, y dygwyd y wlad o dipyn i beth dan driniaeth. Deuir ar draws yr enw ambell dro yng
- ↑ Llyfr Du Tyddewi, 220.