(gweler td. 155). Pa un bynnag a yw'n briodol ai peidio ddefnyddio'r term fforest am goedwigoedd nad oeddynt yn nwylo'r goron, yr oedd delw arferion a deddfau'r Fforest yn drwm ar y coedwigoedd hynny a ddelid gan arglwyddi Normanaidd Cymry a'r goror. Erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg, yr oedd y barwniaid yn hawlio iddynt eu hunain y breintiau neilltuol hynny ynglŷn â helwriaeth a ystyrid gynt yn rhagorfraint y brenin ei hun; a hwynthwy, yn hytrach na'r brenhinoedd, a roddodd derfyn ar hawl y bobl gyffredin i hela.[1]

Buasai'n ddiddorol gael gwybod i ba raddau yr oedd rhywbeth tebyg i gyfundrefn y Fforest yng Nghymru yng nghyfnod y Tywysogion, hynny yw, a oedd y Tywysog Cymreig, yntau, wedi dechrau neilltuo adrannau arbennig o'r wlad i amcanion hela. Yn ei siartr i dref Llanfyllin, dywed Llywelyn ap Gruffydd na chai'r bwrdeiswyr dorri pren yn yr un o'r tair ffridd a gedwid ganddo ef iddo ei hun. Hefyd, yn y siartr a roddodd Arglwydd Arundel i denantiaid y Waun yn 1334, rhydd ganiatâd i'r gwŷr rhydd ddal "iwrchod, ysgyvarnogod, a llwynogod drwy gwbyl o'r tiroed ag a Swetpwyd uchod, odieuthyr yr hen balseu nullduol a wnant dan nawdd a gwahard yn amser Arglwyddi Cymry ag yn yr un mod y cadait hwynt
- ↑ Petit Dutaillis: Studies Supplementary to Stubbs' Constitutional History