Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aceri, 48 ohonynt yn goed. Gellid cadw yn y parc hwnnw 60 o dda ar wahân i'r helwriaeth. Codid 7c. yr acr am y borfa y tu allan i'r coedydd a 6ch. am y borfa oddimewn. Yn yr un parc fe dorrid 30 llwyth o frwyn bob blwyddyn, gwerth 6ch. y llwyth, a 40 llwyth o redyn, gwerth 3c. y llwyth. Hefyd, yr oedd y mêl a'r cwyr a geid yn y goedwig o gryn werth. Yr oedd y mêl a gesglid yng nghastell Maurice, er enghraifft, yn werth 4c. yn y flwyddyn. Yr oedd iddo hefyd Fforest o 300 0 aceri yn Llwydiarth, lle yr oedd y cnau a'r mes yn werth 2/— yn y flwyddyn. Gellid cadw yno gynifer à 30 o gesyg llydnu, 40 o dda a 200 o ddefaid. Codid ceiniog am borfa pob un o'r da, a cheiniog am ddeg o ddefaid. Yr oedd y coed a werthid bob blwyddyn yn dwyn i mewn elw o 26/8.[1]

Rhydd golygwyr Stent Dinbych (1334) yr argraff na ddylanwadodd deddf y Fforest ar y mesur hwnnw o gwbl. Ar ba dir y maentumir hyn ni wyddom, oherwydd y mae'r Stent yn cynnwys pob manylion am fforestydd yr Arglwyddiaeth ar wahân i'r dirwyon mewn achosion neilltuol—ac yng nghofnodion llys y ceir y rheini ac nid mewn Stent.[2]

Ym mlaenaf oll, ceir manylion parthed y parciau—y lleoedd hynny a geuid i mewn er mwyn diogelu'r helwriaeth. Yr oedd un o'r parciau hyn, a adwaenid fel y Parc Bach, yng nghymdogaeth y Castell. Cynhwysai hwn 264 o aceri. Yr oedd saith acr ohono dan ddrain trwchus, pigog, ac yno y llochesai'r helwriaeth. Yr oedd yno hefyd 30 acr o werni yn noddfa i adar gwylltion. Galch—hill a Moelewig oedd enwau'r ddau barc arall, y naill yn cynnwys 62 o aceri a'r llall 442 o aceri. Amgylchid pob un o'r rhain à ffos a phalis, a gwylid hwy yn ofalus.[3] Bu gŵr o'r enw John Boston dros dymor yn borthor Parc Moelewig am dâl o 3/4 yn y flwyddyn. Anfonwyd ceirw i'w rhoi yn y parciau hyn o Fforest y brenin yn Delamere, swydd Gaer.

Yr oedd dros fil a hanner o aceri ym mharc Segrwyd, a chynhwysai rannau o ddwy dreflan o'i fewn, sef Segrwyd a'r Garth. Ceir rhestr faith o denantiaid a ddaliai dir ym mharc Segrwyd, yn union fel y delid tir gan denantiaid yn Fforestydd Lloegr.[4] Heblaw hyn, dywedir yn bendant y delid yr holl goedydd yng nghymwd Cimmeirch gan yr Arglwydd fel

  1. Llyfr Du Tyddewi, 167, 171, 199
  2. "It is to be noted in regard to the woods that rights and customs as to the chase have left no trace whatever in the survey."—Survey of Denbigh, Introduction, XLV.
  3. Survey of Denbigh, 51.
  4. Ibid., 12.