Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Thomas Ferrour, Pen Fforestwr, Fforest yr Wyddfa.
Richard Young, Coedwr Caernarvon.
Coedwyr Meirionydd a Cheidwaid Parc Moelewyg.
Hic. Manley, Parciwr, Parc Bach, Dinbych.[1]

Ymddengys, fodd bynnag, fod Leicester yn barod i wneud ei ran i hyrwyddo cais y rhydd—ddeiliaid, a bod y Siryf hefyd yn y gyfrinach, ond cafodd hwnnw'r fath wrthwynebiad yn Eifionnydd "lle yr oedd y bobl yn hynod feiddgar; synnwyd ef gan eu hymddygiad bygythiol y fath nas gwelwyd mewn unrhyw wlad" nes teimlo ohono na ellid gwneud dim nes anfonid swyddogion yr Iarll yno i'w dychryn. Y mae'n amlwg bod y bobl gyffredin wedi deffro ac yn teimlo, fe ddichon, mai syrthio o'r badell ffrio i'r tân a fuasai dyfod dan awdurdod Wynn a'i gyffelyb. Gwell oedd ganddynt adael pethau fel yr oeddynt. Sgrifennodd Leicester at Siôn Wynn ar y pymthegfed o Fawrth, 1574, yn cydnabod bod Wynn wedi cael trafferth gyda'r trigolion "oddifewn ac oddeutu Fforest yr Wyddfa" ac yn gofidio ei fod ef a'i gyd—rydd—ddeiliaid wedi rhoi'r gorau i gais a oedd mor fanteisiol iddynt ("a suit so commodious for themselves"). Dengys hyn yn lled glir beth oedd yn ysgogi'r deisebwyr.[2]

Yn 1575 gwnaed ymchwiliad i'r tir diffaith yn Fforest Gwynedd o fewn y tair sir—Môn, Arfon a Meirion—ond y mae'n amlwg fod y cwestiwn heb ei benderfynu ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach. Ar y trydydd ar ddeg o Fawrth, 1616—17, gwahoddwyd ustusiaid Caernarfon i gyfarfod yn y dref honno ar y ddeunawfed o'r mis i ateb ynglŷn â'r tir diffaith a'r ceirw yn Fforest yr Wyddfa, ond nid ymddengys iddynt wneud llawer. Y mae'n debyg nad oedd ar yr ustusiaid eisiau ymchwil o'r fath o gwbl.[3]

Erbyn Ebrill, 1623, dywedir bod cyngor y Tywysog wedi penderfynu cael ymchwiliad trwyadl i gwestiwn y Fforest. Ymddengys i ryw gymaint o ymchwil gael ei wneud yn amser Leicester, ac yr oedd y gŵr a oedd yn ysgrifennu at Wynn―William Gruffyth, Carnarvon (? Penrhyn)—yn awyddus iawn am gelu'r hyn a ddadlenasid y pryd hynny. Ymddengys i'r ymchwiliad hwn gael ei ohirio hyd 1638, pryd yr apwyntiwyd Wentworth Woodford i chwilio i mewn i hanes y Fforest yn ôl yr Extent of North Wales, ac i'r trawsfeddiannu a fu. Yr

  1. Ivor Bowen: Statutes of Wales. p. 49.
  2. Calendar of Wynn Papers, 62.
  3. Ibid, 782.