trefniadau. Arferid cynnal y llys dan hen dderw patriarch— aidd ar ochr orllewinol y Mynydd Llwyd. Y mae ar gael restr o reithwyr y llys am y flwyddyn 1270, ac yn eu mysg ceir Abad Tintern, Prior Strigouil, Prior Sant Kinmarks, a naw o Normaniaid eraill.[1]
Yr oedd i'r llys ei gaplan, sef offeiriad Caerwent, ac efô, yn ôl geiriad y weithred, "bringeth or causeth to be brought some text to every court at Struggle" (Strigoil). Hynny yw, yr oedd offeiriad Čaerwent i draddodi pregeth i'r rheithwyr, a chai yntau danwydd a choed angenrheidiol at wasanaeth yr eglwys. Yna anerchid y llys gan y Fforestwr; rhoddai siars i'r rheithwyr ar eu dyletswydd i gosbi pawb a geid yn euog o ladd y carw, y carlwm, yr ysgyfarnog neu'r llwynog. Cosbid hefyd am dynnu nyth hebog, a hyd yn oed am dorri coed yn agos i'r lle y byddai yn arfer â nythu; ac yr oedd hefyd gosb am ollwng geifr i'r coed. Yr oedd yn ddyletswydd arnynt erlyn pawb y tybient eu bod yn euog o hela wedi nos, neu a gariai wn neu fwa, neu a ddelid "in the manner of any of these four degrees, viz., Stable stand, dog draw, back bearend, bloody hand." "Stable stand" oedd un a ddelid ar y weithred o ollwng saeth oddi ar ei fwa neu ei filgi o'r tywys; "dog draw," pan arweinid dyn gan ei gi at garw anafus: "back bearend," pan ddelid dyn a'r helwriaeth ar ei gefn, a "bloody hand," pan geid ef â gwaed ar ei ddwylo. Y rheithwyr a benderfynai pwy gâi goed at wasanaeth y tŷ a'r fferm, a phwy gai besgi moch.
Cyfeirir hefyd at ddosbarth arall o drigolion y goedwig a adwaenid fel y "new commoners." Talai'r rhain swllt yn y flwyddyn am gael coed o'r goedwig, ac at hynny disgwylid iddynt roi cinio i'r fforestwyr unwaith yn y flwyddyn rhwng tymor y Nadolig a'r Garawys. Y mae ar gael lythyr dan law un o'r enw G. Harris, Ranger, yn gorchymyn darparu cinio o'r fath yn y flwyddyn 1664. (Gweler Atodiad.) Syrthiodd y goedwig hon eto trwy drais i ddwylo Beaufort.
Byddai'r fforestwyr yn fynych yn wŷr o safle uchel. Arferai rhai ohonynt dalu swm blynyddol am y swydd, ac adwaenid hwy o'r herwydd fel "Foresters de fee." Weithiau ceir eu cerrig beddau â bwyall gerfiedig arnynt fel arwydd eu swydd. Y mae carreg o'r fath wrth dalcen dwyreiniol eglwys Llangedwyn. Saif yr eglwys hon ar y ffin rhwng dwy o fforestydd y Waun, sef Cynllaith a Mochnant, a choffáu un o'r fforestwyr y coedwigoedd hynny yn ddiau y mae'r garreg.
- ↑ Gweler Cymru, Ebrill, 1905.