Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cymru'r Oesau Canol.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Y Cyffion, Dinas Mawddwy.

IX.
Bywyd Tref. Y Siartrau.

Nid ydynt yn trigiannu mewn trefydd, pentrefydd na chestyll, ond yn byw ar wahân yn y coedwigoedd.—GERALLT GYMRO.

Cyfyd eu ffyrnigrwydd yn ogystal a drygau eraill o'r ffaith nad ydynt yn byw gyda'i gilydd, ond ymhell y naill oddi wrth y llall. Os ydych am eu diwygio yn unol â deddf Duw a dull y byd a'u cael i ymadael â'u ffyrnigrwydd, gorfodwch hwy i fyw mewn trefydd.—CYNGOR YR ARCHESGOB PECKHAM I EDWARD I.

Y MAE pwysigrwydd arbennig yn perthyn i fywyd tref yn Ewrop yn ystod yr oesau canol. Ar y gorau, bychan oedd rhyddid dan y gyfundrefn faenoraidd, ac y mae sail i gredu bod cyflwr pethau yn Lloegr yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg yn waeth nag yn y canrifoedd cynt. Nid yw mor hawdd cymharu pethau yng Nghymru, ar gyfrif prinder ystadegau, ond nid yw'n debyg bod safle'r Cymro gorchfygedig yn well na phan oedd yn byw dan ei dywysogion ei hun. Gwyddom hefyd i bethau waethygu'n fawr wedi gwrthryfel Glyn Dŵr, pan ddiraddiwyd cenedl gyfan megis i gyflwr herwriaeth, ac y gwnaed pob ymdrech i farbareiddio'r Cymro. "I have read lawes," meddai George Owen, hanesydd Sir Benfro, "made by K(ing) H(enry), 4 most unnaturaly in my symple oppynion agaynst Welshmen nott only for theyre punishment butt also to depryve them of all libertye and freedom and to barr them from all cyvill education."[1]

Ond daeth llwybr ymwared, mewn gwledydd eraill ac i fesur llai yng Nghymru hefyd, yn nhŵf y dref. Y mae'n bwysig cofio, tra mai caethiwed dirol oedd nodwedd y faerdref Gymreig, fel y manor Seisnig, mai rhyddid oedd hanfod bywyd

  1. Owen's Pembrokeshire, III, 35.