tref o'r dechrau, ac yn hyn o beth ni wnai trefydd yr oesau canol ond ail—adrodd hanes yr hen ddinasoedd Groegaidd. Yn ninas y Groegwr y datblygodd y syniad am ryddid gyntaf, ac wedi maith ganrifoedd o ryfel a gorthrwm fe ailflagurodd yn nhref yr oesau canol. Ond nid oedd gan Gymry'r cyfnod hwnnw unrhyw gariad at fywyd tref, ac ar eu gwaethaf hwy a than aden y gelynion Normanaidd a Seisnig y daeth y datblygiad hwn ym mywyd Cymru. Ceir tystiolaeth bendant i'r perwyl hwn gan Gerallt Gymro, a sgrifennai tua diwedd y ddeuddegfed ganrif ar ôl ei daith trwy Gymru o ben bwy gilydd gyda'r archesgob Baldwin. Nid yw'r Cymry," meddai, yn byw mewn na thref na phentref na chastell, eithr bawb ar wahân yn y coedwigoedd," ac y mae'r cwbl a wyddom am eu bywyd yn y cyfnod hwn yn ategu ei dystiolaeth.
Dengys yr olion cynharaf a feddwn i'r Cymry drigo am rai canrifoedd ar bennau'r mynyddoedd. Yr oedd rheswm da am hyn, fel y sylwyd eisoes, ym mheryglon ac anawsterau bywyd y dyffryn. Y rhain yw'r sefydliadau hynaf y gwyddom amdanynt; a cheir rhywbeth tebycach i bentref neu dref mewn lleoedd o'r fath nag a geir mewn cyfnodau diweddarach yn hanes Cymru. Sefydliad o'r math hwn yw Tre'r Ceiri ar uchaf yr Eifl, ac y mae rhai eraill cyffelyb ar gopa'r Penmaenmawr a llu o leoedd eraill yng Ngogledd a De Cymru. Enw'r Cymry ar y sefydliadau hyn oedd Dinas,—lle cadarn wedi ei amgylchu â chlawdd neu fur ac yn noddfa ddiogel yn awr cyfyngder. Yina y treuliai'r trigolion eu hamser pan na byddent yn ymladd neu yn hela yn y coedwigoedd neu yn ceisio trin eu tipyn tir gwyllt y ceir ei olion mewn llawer lle hyd yn oed ar bennau'r mynyddoedd. Ni ddatblygodd yr un o'r sefydliadau hyn, fodd bynnag, yn bentref neu dref, yn ystyr gyffredin y gair. Yn y man daeth y Rhufeiniwr, yntau, â'i gaer—lle cadarn i noddi bagad o filwyr, wedi ei gysylltu â lleoedd eraill cyffelyb ar hyd y ffyrdd campus yr oedd ef yn gymaint meistr ar eu gwneud. Saif y gaer Rufeinig, fel rheol, yn is na'r ddinas Geltaidd, ond yr oedd y rhan fwyaf ohonynt mewn lleoedd lled ddiarffordd, ac nid oes lle i gredu bod odid un ohonynt wedi datblygu yn dref yn yr oesau canol. Y mae'n wir y ceir trefydd a phentrefydd heddiw lle yr oedd gynt gaerau Rhufeinig; ond o graffu arnynt, gwelir nad oedd gysylltiad rhwng y datblygiad hwnnw a'r hen gaer, a dichon mai'r cwbl a gafwyd ohoni oedd ychydig gerrig i godi muriau'r dref gaerog newydd. Y mae'n wir fod Caerlleon ar Wysg a Chaerfyrddin